Pobl y Senedd

Hannah Blythyn AS

Hannah Blythyn AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Delyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Hannah Blythyn yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Hannah Blythyn yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

ar gyfer y gwaith hwn. Byddwn yn trafod efo partneriaid cyfiawnder troseddol yn ystod cyfarfod bwrdd casineb a thensiwn cymunedol Cymru nes ymlaen yn y mis.

Y Cyfarfod Llawn | 17/10/2023

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r bwrdd cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ymchwilio i'r bobl sy'n cyflawni troseddau casineb. Mae'r gwaith ymchwil yma yn adeiladu ar gynlluniau eraill...

Y Cyfarfod Llawn | 17/10/2023

Y Cyfarfod Llawn | 17/10/2023

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yn annog pobl o bob cefndir a chymuned i weithio gyda'i gilydd i daclo troseddau casineb. Mae'n gyfle i...

Y Cyfarfod Llawn | 17/10/2023

Rydym yn cydnabod y rôl y mae swyddfeydd post yn ei chwarae mewn cymunedau, fel y dywedwch, yn enwedig pan fo banciau'n cau, ac rydym i gyd wedi wynebu hynny yn ein cymunedau ein hunain a...

Y Cyfarfod Llawn | 11/10/2023

Diolch, Mabon ap Gwynfor. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig am fanciau a swyddfeydd post. Dwi'n cytuno.

Y Cyfarfod Llawn | 11/10/2023

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Hannah Blythyn AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae blaenoriaethau gwleidyddol Hannah yn cynnwys gwthio i greu rhagor o swyddi da, cyfleoedd da a buddsoddiad o’r tu allan i ogledd-ddwyrain Cymru, ochr yn ochr â sicrhau bod ein cymunedau lleol a’n gwasanaethau yn ffynnu.

Mae diddordebau polisi penodol gan Hannah mewn: cyflogaeth; yr economi; seilwaith; cydraddoldebau; addysg; pobl ifanc; tai; gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

Hanes personol

Mae Hannah yn ymfalchïo ei bod yn dod o’r Gogledd ac o Gei Connah. Aeth hi i ysgol Sant Richard Gwyn yn y Fflint a bellach mae’n byw yn yr Wyddgrug. Ar ôl gadael yr ysgol, astudiodd Hannah ym Mhrifysgol De Montfort yng Nghaerlŷr ac ers hynny mae wedi gweithio ledled Sir y Fflint, Cymru ar DU.

Cefndir proffesiynol

Cyn cael ei hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 5 Mai 2016, roedd Hannah yn gweithio i undeb llafur Unite am bron i ddegawd. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu’n cyflawni gwaith o ran arweiniad polisi a gwaith gwleidyddol ar gyfer yr Undeb yng Nghymru, gan arwain ar nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus gan gynnwys: gweithredu ar gosbrestru; gwell cyfiawnder i ddioddefwyr clefydau cysylltiedig ag asbestos; gwarchodaeth i weithwyr gwledig yng Nghymru; a chyflog byw i weithwyr y GIG yng Nghymru.

Yn y gorffennol, bu Hannah yn gweithio i elusen fach, ac mae hefyd wedi gweithio i Aelod Seneddol yn Sir y Fflint ac yn y sector lletygarwch yn y sir.

Hanes gwleidyddol

Mae Hannah wedi bod yn weithgar yn y mudiad llafur ac ym maes gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cyfraniad hwn fel Aelod Cynulliad. Mae hi’n gyn-gadeirydd y gangen LGBT Llafur ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch am briodasau cyfartal.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Hannah Blythyn AS