Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau nad oes rhaid i Amgueddfa Cymru gau unrhyw un o'i safleoedd?

Wedi'i gyflwyno ar 17/04/2024

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau yng nghymunedau'r cymoedd?

Wedi'i gyflwyno ar 17/04/2024

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau y gall eu cymryd i helpu i sicrhau cyfiawnder i fenywod Cymru a anwyd yn y 1950au nad ydy...

Wedi'i gyflwyno ar 16/04/2024

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch eithrio'r brenin o'r Ddeddf Amaeth (Cymru) 2023?

Wedi'i gyflwyno ar 16/04/2024

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ariannu lefel briodol o gyflog yn y gwasanaethau iechyd a g...

Wedi'i gyflwyno ar 10/04/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei amcangyfrif yw'r amserlen i Gymru fodloni canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd o ran llygryddion PM2.5?

Wedi'i gyflwyno ar 19/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, gweithiodd Delyth fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS.  Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar  stelcio a thrais domestig.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Yn 2019, tyngodd Delyth lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol.  Yn 2021, ail-etholwyd Delyth yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, ac mae wedi cael ei phenodi yn llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd, trafnidiaeth ac ynni.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS