Pobl y Senedd

Caroline Jones AS

Caroline Jones AS

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i anghenion iechyd meddwl pobl ifanc?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro amrywiolion newydd o feirws SARS-CoV-2?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y cŵn a gaiff eu dwyn yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 11/03/2021

Gwella iechyd meddwl, ar ôl y pandemig.

I'w drafod ar 10/03/2021

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y gwrthodwyd ll...

I'w drafod ar 05/03/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella diagnosteg canser yn sgil pandemig y coronafeirws?

Wedi'i gyflwyno ar 25/02/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Caroline Jones AS

Bywgraffiad

Roedd Caroline Jones yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Ers iddi ddioddef o ganser y fron yn 2007, mae Caroline wedi bod yn 'gyfaill' i ddioddefwyr canser. Mae'n parhau i godi arian ar gyfer elusennau canser ac yn gwneud gwaith gwirfoddol ar eu rhan. Mae hefyd yn cefnogi nifer o elusennau lles anifeiliaid.

Hanes personol

Ganwyd Caroline yn ne Cymru, yn ferch i gyn-filwr ac yn wyres i löwr. Cafodd ei haddysg yn lleol, gan fynd i goleg a phrifysgol yn y rhanbarth.

Cefndir proffesiynol

Er bod Caroline yn athrawes gymwysedig, gadawodd y byd addysg i weithio ym maes llywodraeth leol. Yna, ymunodd â'r Gwasanaeth Carchardai, lle bu'n rheoli ei hadran ei hun. Ar ôl gadael y Gwasanaeth Carchardai, sefydlodd Caroline ddau fusnes bach. Mae hi'n gyflogwr lleol.

Hanes gwleidyddol

Roedd Caroline yn ymgeisydd i blaid UKIP yn Etholiad Ewrop 2014 ac Etholiad Cyffredinol 2015 cyn cael ei henwi'n brif ymgeisydd y blaid yn rhanbarth Gorllewin De Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad.

Ym mis Medi 2018, gadawodd Caroline UKIP a daeth yn Aelod Cynulliad Annibynnol.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Caroline Jones AS