Pobl y Senedd

Suzy Davies AS

Suzy Davies AS

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin De Cymru

Comisiynydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Mae'r Senedd hon: 1. Yn nodi bod Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, dan arweiniad Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, yn dathlu gofalwyr ifanc ledled y DU. 2. Yn dathlu'r cyfraniadau a w...

I'w drafod ar 18/03/2021

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio canol trefi?

Wedi'i gyflwyno ar 11/03/2021

Pa bwerau newydd sydd ar gael i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i'w galluogi i ddelio â storio coed gwastraff, yn sgil y tanau naddion pren yn Heol-y-Cyw yn 2016?

Wedi'i gyflwyno ar 03/03/2021

Pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi y bydd y £9.8 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr byddar?

Wedi'i gyflwyno ar 17/02/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd cyllideb 2021-22 o fudd i'r broses o adfywio canol trefi yng Ngorllewin De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 03/02/2021

Pa feini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i benderfynu pryd y bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn gallu ailagor?

Wedi'i gyflwyno ar 28/01/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Suzy Davies AS

Bywgraffiad

Roedd Suzy Davies yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Hanes personol

Mae Suzy yn briod ac mae ganddi ddau fab.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl gyrfa ym myd marchnata a rheoli yn y celfyddydau, cymhwysodd Suzy fel cyfreithiwr, gan weithio mewn nifer o feysydd o deuluoedd sy’n agored i niwed i gynllunio treth.

Mae wedi hyfforddi fel mentor i weithio gyda throseddwyr ifanc ac wedi mentora gyda Prime Cymru. Bu Suzy hefyd yn ymddiriedolwraig i nifer o brosiectau plant. Bu’n cynnal Clwb Swyddi ac yn gwirfoddoli gyda grwpiau cymorth cymunedol, gan gynnwys Cyfeillion a Theuluoedd Carcharorion yng ngharchar Abertawe. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o gyhoeddiadau ac roedd yn un o sylfaenwyr Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cymru.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Suzy Davies AS