Pobl y Senedd

Samuel Kurtz AS

Samuel Kurtz AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd ei angen i sicrhau bod cyffordd Rhos-goch ar yr A477 yn ddiogel?

Wedi'i gyflwyno ar 08/05/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pryd y bydd newidiadau i reoliadau pympiau gwres ffynhonnell aer yn cael eu gwneud, yn unol â phwynt 6 o'r casgliadau i adroddiad Cam 2 Llywodra...

Wedi'i gyflwyno ar 02/05/2024

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno newidiadau i derfynau cyflymder yn Milton, ar yr A477?

Wedi'i gyflwyno ar 26/04/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gorsafoedd rheilffyrdd sy'n eiddo i Trafnidiaeth Cymru ac yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cadw mewn cyflwr da, glân?

Wedi'i gyflwyno ar 26/04/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant y bargeinion dinesig a thwf?

Wedi'i gyflwyno ar 26/04/2024

Beth yw cyfanswm gwerth mewnfuddsoddiad i Gymru ers mis Mai 2021?

Wedi'i gyflwyno ar 25/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Samuel Kurtz AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Samuel yn eiriolwr cryf dros gefn gwlad Cymru a'r Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae’n is-gadeirydd ar Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac mae wedi ennill sawl cystadleuaeth ar lefel Cymru ac ar lefel genedlaethol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, adloniant ar lwyfan a materion gwledig. Mae Samuel yn frwd dros chwaraeon, ac mae’n mwynhau chwarae criced, rygbi a phêl-droed.

Hanes personol

Wedi'i eni a'i fagu ar y fferm deuluol gydag unedau gwyliau hunanarlwyo yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Samuel yn siaradwr Cymraeg a fynychodd ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i astudio BA Anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.

Cefndir proffesiynol

Ar ôl graddio, dychwelodd Samuel i Sir Benfro i weithio fel gohebydd i'r Pembrokeshire Herald a'r Western Telegraph, cyn dechrau swydd yn swyddfa'r Aelod Seneddol lleol.

Hanes gwleidyddol

Mae Sam wedi cynrychioli ward Scleddau ar Gyngor Sir Penfro ers 2017 a chafodd ei ethol fel Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mis Mai 2021.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Digwyddiadau calendr: Samuel Kurtz AS