Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/04/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

2.1

Rheoliadau’r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024

Dogfennau ategol:

2.2

Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Iechyd a Diogelwch) (Diwygio a Darpariaethau Trosiannol etc.) 2024

Dogfennau ategol:

2.3

Ardaloedd Draenio

Dogfennau ategol:

2.4

Dyfodol Dur Cymru – Tata Steel UK

Dogfennau ategol:

2.5

Sesiwn Graffu Gyffredinol ar Waith y Gweinidog – 6 Mawrth 2024: Gwaith dilynol

Dogfennau ategol:

2.6

Hybu Cig Cymru

Dogfennau ategol:

2.7

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.8

Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru: Gwybodaeth yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 21 Mawrth 2024

Dogfennau ategol:

2.9

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrywiol) 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.40)

3.

Ymchwiliad: Banc Datblygu Cymru: Panel 4 – Banc Datblygu Cymru

Gareth Bullock, Cadeirydd, Banc Datblygu Cymru

Giles Thorley, Prif Swyddog Gweithredol, Banc Datblygu Cymru

Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, Banc Datblygu Cymru

Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Cymru, Banc Datblygu Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar Fanc Datblygu Cymru.

3.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y panel, gan ofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd mewn perthynas â buddsoddiadau ecwiti:

 

-       Pa ganllawiau a roddir i fusnesau er mwyn iddynt ddeall popeth sy’n ymwneud â buddsoddiad ecwiti?

·          

-       A yw’r Banc Datblygu weithiau’n penodi’r un Buddsoddwr Gyfarwyddwr i eistedd ar fyrddau sawl cwmni y mae’r Banc Datblygu wedi buddsoddi ynddynt?

 

-       Faint o reolaeth sydd gan y Banc Datblygu dros y ffordd y mae Buddsoddwr Gyfarwyddwr yn gweithredu a'r penderfyniadau y mae'n eu gwneud ar ôl iddo gael ei benodi?

 

(10.50-12.00)

4.

Ymchwiliad: Banc Datblygu Cymru: Panel 5 – Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer – Cyfarwyddwr, Gweithrediadau - Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Jo Banks - Pennaeth Mynediad at Gyllid a’r Tîm Partneriaeth BDC, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1     Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.00-12.10)

6.

Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(12.10-12.25)

7.

Dyfodol Dur Cymru: Papur ar y materion allweddol

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion allweddol.

 

(12.25-12.30)

8.

Y broses o graffu ar y Gyllideb

Cofnodion:

8.1     Trafododd y Pwyllgor yr eitem.