Grŵp Trawsbleidiol

Y Gyfraith - Y Bumed Senedd

Disgrifiad

Cafodd y Grŵp Trawsbleidiol hwn ei ddiddymu ar ddiwedd y Bumed Senedd (Ebrill 2021).

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar y Gyfraith

 

Diben

Bydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Gyfraith yn gweithredu fel fforwm i drafod materion cyfreithiol sy'n berthnasol i Gymru a'i phroffesiwn cyfreithiol.  Bydd hyn yn cynnwys ystyried y cyfleoedd a'r heriau yn sgil y dargyfeiriad cynyddol rhwng y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y posibilrwydd o awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol ar gyfer Cymru.

Bydd y grŵp yn ceisio cryfhau'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Bydd y gwaith cychwynnol yn cynnwys annog Aelodau'r Cynulliad, yn ogystal â chyfreithwyr, bargyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol eraill yng Nghymru, i ymgysylltu â'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac yna ystyried goblygiadau ei Adroddiad.

Bydd y Grŵp yn hyrwyddo eglurder, hygyrchedd a dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru.

 

Deiliaid swyddi

 

Cadeirydd: Mark Reckless AS

 

Ysgrifennydd: Catriona Brown, AMSS

 

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

Mae Cofnodion pob cyfarfod, ac Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol ar gael yma:

Dogfennaeth y Grŵp Trawsbleidiol

 

Aelodau