Pobl y Senedd

Mabon ap Gwynfor AS

Mabon ap Gwynfor AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyfor Meirionnydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddisgwyliad oes iach, sy'n dangos mai Cymru oedd â'r disgwyliad oes iach isaf o ran menywo...

Wedi'i gyflwyno ar 27/03/2024

A yw Llywodraeth Cymru wedi contractio neu gyflogi Ben Glaze, y cyn-Ddirprwy-Olygydd Gwleidyddiaeth yn y Mirror, dros y deuddeg mis diwethaf?

Wedi'i gyflwyno ar 18/03/2024

Pa drafodaethau y mae'r Llywodraeth wedi'u cael gyda sefydliadau cymorth brys a dyngarol ynghylch darparu cymorth i Gaza?

Wedi'i gyflwyno ar 14/03/2024

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys yng nghanolbarth a gogledd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod argymhelliad wedi'i...

Tabled on 13/03/2024

Mae'r Senedd hon: 1. Yn credu na ddylai neb gael ei droseddoli am fod yn ddigartref. 2. Yn mynegi pryder am gynigion ym Mil Cyfiawnder Troseddol Llywodraeth y DU i gyflwyno pwerau'r hed...

I'w drafod ar 07/03/2024

Faint o bobl sydd wedi gofyn am gyllid o'r Gronfa Cymorth Dewisol yn nodi rhesymau cam-drin domestig fel ffactorau cyfrannol rhwng mis Ionawr 2023 a mis Ionawr 2024, wedi'i ddadansoddi yn...

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mabon ap Gwynfor AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mabon ap Gwynfor yn ymddiddori mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys materion rhyngwladol yn ymwneud a heddwch a chydberthynas gwladwriaethau; a hawliau cymunedol a phobl. Sefydlodd Mabon Gyngrhair Iechyd Gogledd Cymru yn 2013. Roedd yn gyd-drefnydd i wyliau heddwch cenedlaethol Cymru o 2004 i 2006. Mae Mabon yn Gristion. Mae’n arlunydd cain amatur, ac yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth, darllen yn eang, a chwarae gyda’I blant.

Hanes personol

Mae Mabon yn wr I Nia, ac yn dad I bedwar o blant. Maent yn byw ar y fferm deuluol. Yn fab I’r mans, symudodd y teulu I wahanol gymunedau. O ganlyniad mynychodd Mabon amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Gwyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byrhoedlog yn Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.

Cefndir proffesiynol

Graddiodd Mabon o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd BA mewn Hanes. Mae cefndir proffesiynol Mabon yn y wasg a rheoli proseictau.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Mabon fel Cynghorydd Tref yn Aberystwyth yn 2004, ac fel Cynghorydd Sir ar gyfer ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych yn 2017.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mabon ap Gwynfor AS