Manylion y penderfyniad
Debate on the Financial Resolution of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Mark
Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfeiriwyd y Bil i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol gan y Pwyllgor Busnes.
Gwybodaeth am y Bil
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
- diwygio’r
gyfundrefn reoleiddio ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth;
- darparu
fframwaith rheoleiddio sy’n ei gwneud yn ofynnol cael dull o reoleiddio
gwasanaethau gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau i
ddefnyddwyr gwasanaeth;
- diwygio’r
gyfundrefn arolygu ar gyfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol
awdurdod lleol;
- ailgyfansoddi
Cyngor Gofal Cymru a rhoi enw newydd iddo, sef Gofal Cymdeithasol Cymru,
ac ehangu ei gylch gwaith; a
- diwygio prosesau rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.
Cyfnod Presennol
Daeth Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal
Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gyfraith yng Nghymru ar 18 Ionawr 2016.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno'r Bil: 23 Chwefror 2015 |
Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Datganiad y
Llywydd: 23 Chwefror 2015 Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: Chwefror 2015 Geirfa’r
gyfraith (fersiwn Gymraeg yn unig) Datganiad
ar fwriad polisi’r Bil (PDF 394KB) Y Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) - Crynodeb o Fil (PDF
466KB) Mae Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi yr asesiadau effaith isod mewn perthynas
â’r Bil (lincs allanol):
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol |
Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar
24 Ebrill 2015. Dyddiadau
Pwyllgor Wnaeth y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol trafod y Bil ar y dyddiadau
canlynol:
Wnaeth y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Ddedfwriaethol trafod y Bil ar y
dyddiadau canlynol:
Wnaeth y Pwyllgor
Cyllid trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Adroddiadau’r Pwyllgorau Adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 1MB) Adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 730KB) Llythyr y
Pwyllgor Cyllid (PDF, 453KB) Ymateb Llywodraeth Cymru |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion
cyffredinol y Bil ar ôl dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 14
Gorffennaf 2015. |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad Ariannol |
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn
ar 14
Gorffennaf 2015. |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau |
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 15 Gorffennaf 2015. Ar 9
Gorffennaf 2015, cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod
2: Adran 2; Atodlen 1; Adrannau 3 i 63; Adran 1; Adran 66; Atodlen 2;
Adrannau 67 i 173; Adrannau 64 i 65; Adrannau 174 i 183; Atodlen 3; Adrannau
184 i 188; Teitl hir. Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfodydd y
Pwyllgor ar ddydd
Mercher 7 Hydref a dydd Iau 15
Hydref 2015. Rhestr o
welliannau wedi’u didoli: 7 Hydref 2015 fersiwn 2 Grwpio
Gwelliannau: 7 Hydref 2015 (PDF,
254KB) Cofnodion
cryno: 7 Hydref 2015 (PDF, 78KB) Rhestr o
welliannau wedi’u didoli: 15 Hydref 2015 (PDF,
138KB) Grwpio
Gwelliannau: 15 Hydref 2015 (PDF,
77KB) Cofnodion
cryno: 15 Hydref 2015 Hysbysiad ynghylch gwelliannau Hysbysiad
ynghylch gwelliannau: 23 Medi 2015 (PDF, 177KB) Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith: 23 Medi 2015 (PDF, 702KB) Hysbysiad
ynghylch gwelliannau: 29 Medi 2015 (PDF, 92KB) Hysbysiad
ynghylch gwelliannau: 30 Medi 2015 (PDF,
122KB) Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): fel y'i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 2 (PDF, 560KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu
nodi ar ochr dde’r dudalen.) Newidiadau
argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 240KB) Gwasanaeth
Ymchwil: Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 Memorandwm
Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 3MB) Gohebiaeth
Cyngor
AGGCC ar Gofal Ychwanegol - derbyniwyd 17 Tachwedd 2015 [Saesneg yn unig] (PDF, 179KB) |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau |
Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2,
dechreuodd Cyfnod 3 ar 16 Hydref 2015. Cytunodd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar
10 Tachwedd o dan Reol Sefydlog 26.36 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer
trafodion Cyfnod 3: Adran 2; Atodlen 1; Adrannau 3 i 63; Adran 1; Adran 66;
Atodlen 2; Adrannau 67 i 174; Adrannau 64 i 65; Adrannau 175 i 184; Atodlen
3; Adrannau 185 i 189; Teitl Hir. Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u
gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Tachwedd
2015. Hysbysiad ynghylch gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 6 Tachwedd 2015 f1 (PDF, 80KB) Llywodraeth
Cymru - Tabl Diben ac Effaith: 9 Tachwedd 2015 (PDF, 278KB) Hysbysiad ynghylch
gwelliannau - 10 Tachwedd 2015 f3 (PDF, 169KB) Hysbysiadau
Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF, 190KB) Rhestr o
welliannau wedi’u didoli: 17 Tachwedd 2015 f2 (PDF, 188KB) Grwpio
gwelliannau: 17 Tachwedd 2015 (PDF, 74KB) Newidiadau
argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF, 216KB) Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): fel y'i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 3 (PDF, 1MB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu
nodi ar ochr dde’r dudalen.) |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd
y Cynulliad ar y Bil 24 Tachwedd
2015 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF, 888KB) Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), fel y’i
pasiwyd (Crown XML) |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar
ôl Cyfnod 4 |
Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben. Ysgrifennodd y Twrnai
Cyffredinol, y Cwnsler
Cyffredinol ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w
hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal
Cymdeithasol (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006. |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol [PDF, 166KB] ar 18 Ionawr 2016. |
|
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Llinos Madeley
Rhif ffôn: 0300 200 6352
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1NA
Ebost: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM5815
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at
ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu
Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y
cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad