Manylion y penderfyniad
Dadl ar Benderfyniad Ariannol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Ken
Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Gwybodaeth am y Bil
Bwriadwyd i Fil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fod yn rhan o gyfres o ddeddfwriaethau,
polisïau, cynghorion a chanllawiau a oedd yn cyflwyno newidiadau pwysig i
wella’r systemau presennol a ddefnyddir i warchod a rheoli amgylchedd
hanesyddol Cymru mewn modd cynaliadwy. Yn fras, roedd y Bil yn gwarchod
adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn fwy effeithiol; roedd yn
gwella’r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn
modd cynaliadwy; ac yn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch yr amgylchedd
hanesyddol yn cael eu gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol.
Wrth ei gyflwyno, nodwyd mai bwriad y Bil oedd creu mesurau newydd a oedd
yn:
- yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi stop ar
unwaith ar unrhyw waith anawdurdodedig wneir ar henebion cofrestredig, gan
ei gwneud yn haws cymryd camau yn erbyn y sawl sydd wedi difrodi neu
ddinistrio heneb;
- yn galluogi awdurdodau i weithredu’n gyflym
os bydd adeilad rhestredig mewn perygl oherwydd gwaith anawdurdodedig, gan
roi iddynt fwy o hyblygrwydd wrth ymdrin ag adeiladau hanesyddol y mae
angen gwaith brys arnynt i’w gwarchod rhag dirywio ymhellach;
- yn ei gwneud yn haws i berchnogion neu
ddatblygwyr greu ffyrdd newydd a chynaliadwy o ddefnyddio adeiladau
hanesyddol nad ydynt yn rhestredig, drwy lacio’r amodau ar gyfer gwneud
cais am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru;
- yn creu cofrestr statudol o barciau a gerddi
hanesyddol Cymru;
- yn caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol
negodi cytundebau partneriaeth dreftadaeth, ar gyfer cyfnod o rai
blynyddoedd, gyda’r awdurdod cydsynio. Bydd hyn yn cael gwared ar yr angen
i wneud ceisiadau am gydsyniad dro ar ôl tro ar gyfer gwaith tebyg ac yn
hyrwyddo dulliau mwy cyson a chydlynol o reoli adeiladau neu henebion;
- yn sicrhau dyfodol mwy sefydlog i gofnodion
amgylchedd hanesyddol Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor manwl ar yr
amgylchedd hanesyddol i awdurdodau cynllunio lleol a’r cyhoedd;
- yn gwneud y strwythurau presennol a
ddefnyddir i ddynodi asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol yn fwy agored a
thryloyw drwy gyflwyno ymgynghori ffurfiol â pherchnogion a mecanwaith ar
gyfer adolygu penderfyniadau;
- yn sefydlu panel annibynnol i roi cyngor ar
bolisïau a strategaeth ym maes yr amgylchedd hanesyddol ar lefel
genedlaethol yng Nghymru.
Cyfnod Presennol
Daeth Deddf
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru
ar 21 Mawrth 2016.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno'r Bil: 1 Mai 2015 |
Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd ((PDF 260KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF 1MB) Datganiad
y Llywydd: 1 Mai 2015 (PDF 125KB) Adroddiad
y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF 64KB) Geirfa’r
Gyfraith y Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (PDF 162KB) Datganiadau
o Fwriad y Polisi (PDF 191KB) Crynodeb
y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF 403KB) Rheoli
Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru – Canllawiau Statudol (PDF
1.66MB) Atodlenni Keeling*: Deddf
Henebion a Mannau Archaeolegol 1979 (PDF 262KB) Deddf
Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (PDF 305KB) *Defnyddir Atodlenni Keeling i ddangos sut y bydd
deddfau presennol yn darllen pan y'i diwygiwyd gan y Bil. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol |
Ymgynghoriad
Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 19
Mehefin 2015. Dyddiadau’r
Pwyllgor Ystyriodd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Ystyriodd y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Ystyriodd y Pwyllgor
Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Gwylio
crynodeb 60 eiliad o’n sesiynau tystiolaeth: Gohebiaeth Gohebiaeth
gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - 16 Mehefin 2015
(PDF 420KB) Gohebiaeth
gan y Cadeirydd i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth –
10 Gorffennaf 2015 (PDF 172KB) Ymateb
gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - 21 Gorffennaf
2015 (PDF 503KB) Ymateb
gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Atodiad 1 - 21
Gorffennaf 2015 (PDF 125KB) Gohebiaeth
gan y Cadeirydd i’r Comisiynydd y Gymraeg – 18 Medi 2015 (PDF 151KB) Ymateb
gan y Comisiynydd y Gymraeg – 1 Hydref 2015 (PDF 202KB) Gohebiaeth
gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – 28 Medi 2015
(Saesneg yn unig) (PDF 343KB) Adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF 983KB) Yr
amserlen o ran tystiolaeth lafar (PDF 18KB) Ymateb
gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – 3 Tachwedd 2015(PDF
188KB) Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF 742KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion
cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Hydref 2015. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad Ariannol |
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch
y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Hydref 2015. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau |
Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y
Pwyllgor ar 26
Tachwedd 2015. Cofnodion
Cryno: 26 Tachwedd 2015 Cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar 18 Tachwedd 2015 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd
y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: Adran 3, Atodlen 1, adrannau 4
i 22, adran 2, adran 24, Atodol 2, adrannau 25 i 32, adran 23, adrannau 33 i
41, adran 1, a’r Teitl hir. Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 27 Hydref 2015 (PDF 88KB) Llywodraeth
Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 27 Hydref 2015 (PDF 207KB) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 16 Tachwedd 2015 f2 (PDF 84KB) Llywodraeth
Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 16 Tachwedd 2015 (PDF 162KB) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 19 Tachwedd 2015 (PDF 151KB) Hysbysiadau
Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF 188KB) Rhestr
o welliannau wedi’u didoli: 26 Tachwedd 2015 f4 (PDF 205KB) Grwpio
Gwelliannau: 26 Tachwedd 2015 f2 (PDF 72KB) Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF
257KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y
fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.) Memorandwm
Esboniadol Diwygiwyd (PDF 4.66MB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau |
Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2,
dechreuodd Cyfnod 3 ar 27 Tachwedd 2015. Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26
Ionawr 2016, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai dyma fydd y drefn ystyried ar
gyfer trafodion Cyfnod 3: Adran 3, Atodlen 1, Adrannau 4 i 22, Adran 2, Adran
24, Atodlen 2, Adrannau 25 i 32, Adran 23, Adrannau 33 i 42, Adran 1, Teitl
Hir Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn
ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Chwefror 2016. Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 14 Ionawr 2016 f4 (PDF 114KB) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 22 Ionawr 2016 f3 (PDF 111KB) Llywodraeth
Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 22 Ionawr 2016 (PDF 342KB) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau: 26 Ionawr 2016 f3 (PDF 142KB) Hysbysiadau
Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF 230KB) Rhestr
o welliannau wedi’u didoli: 2 Chwefror 2016 (PDF 207KB) Grwpio
Gwelliannau: 2 Chwefror 2016 f2 (PDF 71KB) Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF
282KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y
fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.) Newidiadau
argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF 108KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 9 Chwefror 2016
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 476KB) Bil
yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar
ôl Cyfnod 4 |
Ysgrifenodd y Twrnai
Cyffredinol (PDF 209KB) ac y Cwnsler
Cyffredinol (PDF 177KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w
hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) at y
Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad
Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol (PDF 165KB) ar 21 Mawrth 2016. |
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.21
NDM5848 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), yn
cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad