Manylion y penderfyniad
Cydraddoldeb a Gadael yr Undeb Ewropeaidd: sesiwn dystiolaeth 1
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Y cefndir
Trefnodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol gyfarfod gyda thystion arbenigol i glywed am y prif faterion ar
gyfer cydraddoldeb yng Nghymru yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd. Helpodd
y cyfarfod y Pwyllgor i ddeall rhai o’r materion cydraddoldeb allweddol yn sgil
gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o brif ffrydio’r ystyriaethau hyn yn
ei waith yn y dyfodol.
Casglu
tystiolaeth
Mae’r Pwyllgor
wedi trafod rhai o’r materion hyn o’r blaen yn ei adroddiad Y
Goblygiadau i Gymru yn Sgil Gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau y Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad i Hawliau Dynol yng Nghymru a
oedd yn cynnwys ystyried effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelu
hawliau dynol yng Nghymru.
Ar 26 Chwefror
2018, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfres o sesiynau
yn trafod effaith Brexit ar gydraddoldeb.
Mewn ymateb i'r
sesiwn ar themâu allweddol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu llythyr
(PDF, 386KB) at y Prif Weinidog, ar y cyd â’r Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn tynnu sylw at y materion allweddol a godwyd
yn y ddau bwyllgor mewn perthynas â Brexit. Ymatebodd
(PDF,305KB) y Prif Weinidog i'r llythyr ar y cyd ar 16 Mai 2018.
Ar 28 Mehefin
2018, ysgrifennodd
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Prif
Weinidog i ofyn am eglurhad pellach am oblygiadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael) 2018 o ran cydraddoldeb a Brexit yng Nghymru. Ymatebodd
y Prif Weinidog ar 23 Gorffennaf 2018.
Adroddiad
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad
ar eu canfyddiadau ar y cyd ar gydraddoldeb a Brexit ym mis Hydref 2018.
Cynhaliwyd trafodaeth ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn
ar 7 Tachwedd 2018.
Penderfyniadau:
2.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan George Wilson.
2.2
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2018
Dyddiad y penderfyniad: 26/02/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/02/2018 - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu