Manylion y penderfyniad

Debate on the Health and Social Care Committee's Report on orthodontic services in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad byr i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.

Y cylch gorchwyl oedd ymchwilio i’r gofal orthodontig priodol a ddarperir yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Yr hawl i driniaeth orthodontig briodol, sy’n cynnwys gwasanaethau gofal orthodontig sylfaenol ac eilaidd ar gyfer cleifion, ac a oes amrywiad rhanbarthol yn bod o ran hawl i wasanaethau orthodontig drwy Gymru.
  • Effeithiolrwydd y cyswllt gweithiol rhwng practisau orthodontig a byrddau iechyd lleol o ran rheoli’r ddarpariaeth orthodontig yn lleol, a rôl y Rhwydweithiau Clinigol a Reolir wrth gynorthwyo i ddarparu gwasanaethau orthodontig mwy effeithiol yng Nghymru (e.e cynllunio a rheoli effeithiol, gwelliant o ran pa mor briodol yw atgyfeiriadau a rheoli perfformiad, trefniadau’r gweithlu).
  • A yw’r arian a ddarperir ar gyfer y gwasanaethau orthodontig ar hyn o bryd yn gynaliadwy o gofio’r wasgfa ar wariant y mae’r GIG yn ei hwynebu, gan gynnwys, a yw’r ddarpariaeth gofal othodontig bresennol yn ddigonol, yn fforddiadwy ac yn darparu gwerth am arian ai peidio.
  • A yw gwasanaethau orthodontig yn cael blaenoriaeth ddigonol yng nghynllun iechyd y geg cenedlaethol ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys trefniadau ar gyfer monitro safonau’r ddarpariaeth a chanlyniadau’r gofal yn y GIG ac yn y sector annibynnol.
  • Effaith y contract deintyddol ar y gofal orthodontig a ddarperir.  

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhadliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 505KB) ym mis Gorffennaf 2014. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 99.2KB) ym mis Hydref 2014.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru ar 8 Hydref 2014.

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

 

NDM5590 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2014

Dyddiad y penderfyniad: 08/10/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad