Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Deddfu yng Nghymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Deddfu yng Nghymru Adroddiad
Cryno
Diben yr ymchwiliad gan Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol oedd ystyried sut y mae deddfau yn cael eu gwneud yn y
Pedwerydd Cynulliad, yn benodol drwy:
- ystyried yr egwyddorion a ddefnyddir wrth
ddrafftio Biliau Aelodau, a gwelliannau, ar gyfer y Cynulliad a nodi’r
ffyrdd y maent yn cydymffurffio â’r arfer gorau yn y Deyrnas Unedig ac
awdurdodaethau cymharol, neu’r ffyrdd nad ydynt yn gwneud hynny;
- ystyried effaith cymhwysedd deddfwriaethol
ar ddrafftio Biliau (gan gynnwys effaith bosibl ffyrdd amgen o ddiffinio
cymhwysedd deddfwriaethol);
- adolygu pwrpas ac effaith Memoranda
Esboniadol, sy’n cyd-fynd â Biliau, a mathau eraill o ddeunydd esboniadol
neu gefndirol;
- adolygu effeithiolrwydd y cyfleoedd a
ddarperir gan y Rheolau Sefydlog i graffu ar Filiau;
- ystyried yr amser a neilltuir ar gyfer
craffu ar Filiau, a materion eraill sy’n ymwneud â gweithdrefn Biliau;
- adolygu cwmpas ac effeithiolrwydd y
trefniadau ar gyfer Biliau sy’n destun llwybr carlam o fewn gweithdrefnau
presennol y Cynulliad;
- ystyried capasiti Llywodraeth Cymru a’r
Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu;
- ystyried materion sy’n ymwneud â’r ffordd y
mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei rhaglen ddeddfwriaethol;
- ystyried unrhyw faterion eraill sy’n
ymwneud â’r broses ddeddfu;
- gwneud argymhellion.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor
ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod
Llawn ar yr adroddiad ar Ddeddfu yng Nghymru ar 20 Ionawr 2016. Gallwch
wylio’r ddadl eto ar senedd.tv
a gallwch hefyd ddarllen Cofnod
y Trafodion.
Ymatebion:
Ymateb
Llywodraeth Cymru
Ymateb
Comisiwn y Cynulliad
Ymateb
y Pwyllgor Busnes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.25
NDM5922 David Melding (Canol
De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 20/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad