Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Sandy Mewies ei hethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd cwestiynau 1, 5 i 11ac 13 i 15. Tynnwyd cwestiynau 2, 3, 4 a 12 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:14. Gofynnwyd cwestiynau 1, 4, 5 a 7 i 14. Tynnwyd cwestiynau 2, 3, 6 ac 15 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(1 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau NDM5010 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rebecca
Evans (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Keith Davies
(Llafur). NDM5011 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Keith Davies
(Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle Rebecca
Evans (Llafur). Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:50. NDM5010 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rebecca
Evans (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Keith Davies
(Llafur). NDM5011 Rosemary
Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Keith
Davies (Llafur) yn aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lle
Rebecca Evans (Llafur). Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Un Corff Amgylcheddol NDM5008 Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad ar yr achos busnes dros un corff amgylcheddol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 1 Mehefin 2012 Dogfennau Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:50. NDM5008 Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei Ymchwiliad ar yr achos busnes dros un corff amgylcheddol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 1 Mehefin 2012 Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5007 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol Cymru wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial cronfeydd yr UE; 2. Yn mynegi pryder nad oes gwersi wedi cael eu dysgu yn sgîl methiant cylchoedd gwariant blaenorol arian Ewropeaidd ac nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi comisiynu adolygiad llawn o brosiectau blaenorol; ac 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrifysgolion Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector preifat i ddatblygu achos busnes i sicrhau y ceir yr effaith fwyaf bosibl o brosiectau Gwariant Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r modd y mae Llywodraethau olynol Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat, Addysg Uwch a’r trydydd sector wedi defnyddio cronfeydd yr UE.’ [os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ar ôl ‘brosiectau blaenorol’ rhoi ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r fath' Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl y gair ‘ddatblygu’, gan roi ‘strategaeth arloesi a fydd yn sail i raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer y cylch cyllido nesaf', yn ei le. Gellir cael gwybodaeth am raglen Horizon 2020 yr UE drwy fynd i: http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm?pg=home&video=none Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:30. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5007 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol Cymru wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial cronfeydd yr UE; 2. Yn mynegi pryder nad oes gwersi wedi cael eu dysgu yn sgîl methiant cylchoedd gwariant blaenorol arian Ewropeaidd ac nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi comisiynu adolygiad llawn o brosiectau blaenorol; ac 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrifysgolion Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector preifat i ddatblygu achos busnes i sicrhau y ceir yr effaith fwyaf bosibl o brosiectau Gwariant Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r modd y mae Llywodraethau olynol Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat, Addysg Uwch a’r trydydd sector wedi defnyddio cronfeydd yr UE.’ Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ar ôl ‘brosiectau blaenorol’ rhoi ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r fath’ Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl y gair ‘ddatblygu’, gan roi ‘strategaeth arloesi a fydd yn sail i raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer y cylch cyllido nesaf’, yn ei le. Gellir cael gwybodaeth am raglen Horizon 2020 yr UE drwy fynd i: http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm?pg=home&video=none Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5007 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r modd y mae Llywodraethau olynol Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat, Addysg Uwch a’r trydydd sector wedi defnyddio cronfeydd yr UE. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrifysgolion Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector preifat i ddatblygu strategaeth arloesi a fydd yn sail i raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer y cylch cyllido nesaf. Gellir cael gwybodaeth am raglen Horizon 2020 yr UE drwy fynd i: http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm?pg=home&video=none
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’ 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy. Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2 Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod ‘Cynllun
Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn cydnabod
sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi datblygu
‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd
y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio
cymunedau yng nghymoedd de Cymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
nad yw
‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn
mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r
sector preifat yng Nghymoedd De Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:26. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’ 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy. Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn cydnabod sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy. Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2 2. Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru. 3. Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17:24. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5004 Sandy Mewies (Delyn): Treftadaeth – ein gorffennol a’n dyfodol Sicrhau bod cymunedau lleol
yng Nghymru yn gallu chwarae
rhan yn y gwaith o ddiogelu eu treftadaeth nawr ac yn y dyfodol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17:27. NDM5004 Sandy Mewies
(Delyn): Treftadaeth – ein gorffennol a’n dyfodol Sicrhau bod cymunedau lleol yng Nghymru yn gallu chwarae rhan yn y gwaith o ddiogelu eu treftadaeth nawr ac yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |