Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1– 4, 6
– 12 ac 14 - 15. Cafodd cwestiynau
5 ac 13 eu tynnu yn ôl. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.10 Gofynnwyd cwestiynau 1– 7, 10 – 11 ac 13 - 15. Cafodd cwestiynau 7 ac 14 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 8, 9 ac 12 eu tynnu yn
ôl. Atebwyd cwestiynau 6 ac 13 gan
y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.56 Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am y goblygiadau i Remploy yng Nghymru yn sgîl datganiad Maria Miller, Gweinidog Llywodraeth y DU dros Bobl Anabl, am benderfyniad Bwrdd Remploy. |
||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddinas-ranbarthau Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.05 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru NDM5033 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012. Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012. Dogfennau Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.47 NDM5033 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r
cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru,
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2012. Noder: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Datganiad gan y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd fod Darren Millar wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.91, caiff Darren Millar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Ardoll Gwm Cnoi. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt NDM5036 William
Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau
Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4
Gorffennaf 2012. Dogfennau Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.38 NDM5036 William
Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5035 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y rôl bwysig y mae perchnogion y rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chwarae o ran cynyddu faint o nwyddau sy’n cael eu cludo'n fasnachol ar y rhwydwaith. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.19 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5035 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.07 |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5034 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Anrhydeddu ein Harwyr – Gwarchod Cofebau Rhyfel yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM5034 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Anrhydeddu
ein Harwyr – Gwarchod Cofebau Rhyfel yng Nghymru |
|||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |