Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd
cwestiwn 12 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 13 i’w ateb yn ysgrifenedig. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.12 Gofynnwyd y naw cwestiwn cyntaf. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013. Dogfennau
Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.00 NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’ NDM5166 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd
Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Rhagfyr 2012. Dogfennau Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.45 NDM5166 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd
Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17
Rhagfyr 2012. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o
gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor
hir. 2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’
Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun
o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn
2012-13. 3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi
gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu
strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys: a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a
chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag; b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob
awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo; c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n
ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol; d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i
awdurdodau lleol; e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r
dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir; f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso
gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar
gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto,
yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU. Ceir gwybodaeth am y cynllun Troi Tai’n Gartrefi drwy
fynd i: Ceir gwybodaeth am y New Homes Bonus Scheme drwy fynd i: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/6004/1846530.pdf Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi
bod cartrefi gwag yn cynnig cyfle
i adfywio tai sy'n rhoi hwb
bwysig i'r economi. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar
ddiwedd pwynt 1: ‘ac y gellid defnyddio
eiddo o'r fath i liniaru ar yr angen
nas diwallwyd am dai cymdeithasol' Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt 3b: ‘gan gydnabod bod gan bob cartref gwag ei stori
ei hun ac mai’r hyn sy’n
bwysig yw bod Swyddogion Cartrefi Gwag yn deall
pam ei fod yn wag, ac yn gweithio’n
agos gyda’r perchennog i ddechrau ei ddefnyddio eto’ Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt 3e: ‘drwy greu
premiwm treth gyngor cartrefi gwag ar gyfer
eiddo sy’n cael ei adael
yn wag am dros ddwy flynedd, er
mwyn bod yn sensitif i amgylchiadau unigol – fel perchnogion
sydd wedi cael profedigaeth neu berchnogion â phroblemau cymhleth y byddai modd, gyda
chefnogaeth, ceisio’u datrys’ Gwelliant
5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
3: ‘lobïo Llywodraeth
y DU i ostwng TAW ar atgyweirio a gwneud gwelliannau i gartrefi i 5%.’ Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: ‘sicrhau bod cyllid
ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol fel rhan o raglen i ddechrau defnyddio eiddo gwag eto
fel tai fforddiadwy;’ Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: ‘caniatáu mwy
o hyblygrwydd wrth ddefnyddio eiddo sy’n cael ei
ariannu o dan y fenter ‘Troi Tai’n
Gartrefi’, er mwyn sicrhau cymaint
o fudd â phosibl i’r rheini sydd
mewn angen o ran tai;’ Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.36 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o
gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor
hir. 2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’
Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun
o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn
2012-13. 3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi
gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu
strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys: a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a
chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag; b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob
awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo; c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n
ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol; d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i
awdurdodau lleol; e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r
dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir; f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso
gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar
gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto,
yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.36 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen): Lleddfu’r Ergyd Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen): Lleddfu’r Ergyd Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |