Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kathryn Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 183KB) Gweld
fel HTML (150KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Dirprwyodd Jeff Cuthbert ar ei
rhan, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(09.15-09.25) |
Deisebau newydd |
|
P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at: ·
Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am yr amserlen ar gyfer adolygu safonau ar
gyfer cyrff preifat a chyrff yn y sector gwirfoddol na chawsant eu cynnwys yn y
garfan gyntaf; a ·
gofyn i Brif Weinidog Cymru; o
i gadarnhau mai bwriad y Llywodraeth yw gweithredu ar yr amserlen honno; ac
i o
ddarparu gwybodaeth bellach ar fwriadau’r Llywodraeth o ran diwygio Mesur y
Gymraeg (Cymru) 2011; o
gofyn am wybodaeth bellach am y rhesymau pam y mae Llywodraeth Cymru wedi
gofyn i fusnesau penodol gael eu tynnu’n ôl fel rhan o’r drydedd garfan o
safonau; a o
gofyn am eglurhad ar rôl Comisiynydd y Gymraeg wrth benderfynu pa fusnesau
y dylid eu tynnu’n ôl. |
||
P-04-657 Codi Tâl am Barcio a’r Berthynas â Strydoedd Mawr a’u Llwyddiant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i’r deisebydd. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a chytunwyd i: ·
Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar lythyr y Gweinidog; ac ·
Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pa gamau y mae wedi’u cymryd, yn enwedig o
ran cysylltu ag awdurdodau lleol, yn dilyn cyhoeddi’r ymchwil i archwilio’r
berthynas rhwng taliadau meysydd parcio a nifer yr ymwelwyr â chanol trefi yng
Nghymru. |
||
(09.25-10.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-633 Codi Ymwybyddiaeth o’r Band Eang Gwael yn Ein Hardal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y deisebydd a phartïon eraill yr effeithiwyd arnynt a chytunwyd i gau’r ddeiseb.
Wrth wneud hynny roeddent yn dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r
Pwyllgor ac i anfon ymlaen, er gwybodaeth, gopi o ohebiaeth gysylltiedig a
anfonwyd at yr Aelodau yn ddiweddar. |
||
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y
Gweinidog, yn cefnogi’r llythyr gan
Gyngor Tref Cas-gwent a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y sefyllfa ar frys.
|
||
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Achub y Gyfnewidfa
Lo a’r deisebydd a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth gyda’r
sylwadau ychwanegol a gofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf o ran ei
dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa ac a yw’n credu bod Cyngor Sir Caerdydd yn
defnyddio’i bwerau mewn ffordd briodol; ac wrth wneud hynny ·
anfon copi o’r llythyr at Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros
Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Stephen Doughty AS, gyda chais eu bod
yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eu gwybodaeth am y sefyllfa
ddiweddaraf. |
||
P-04-565 Adfywio Hen Reilffyrdd Segur at ddibenion Hamdden Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae hi’n rhan o ymgyrch i ailagor Twnnel y Rhondda. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y deisebydd a
chytunwyd i: ·
Ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd y mae’n disgwyl adolygiad Sustrans i
mewn i Dwnnel y Rhondda gael ei gwblhau; a ·
Rhoi gwybod i’r deisebydd bod yr Adran Briffyrdd yn berchen ar dwneli
rheilffordd eu hunain yng Nghymru ac efallai y byddai am gysylltu â nhw yn
uniongyrchol. |
||
P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Roedd yr aelodau’n dymuno diolch
i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor. |
||
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y deisebydd ac, o ystyried na fydd y
cynnig ymchwil sy’n cael ei ddatblygu i edrych ar economeg y diwydiant cartrefi
mewn parciau yn cael ei gwblhau tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad, cytunwyd i
gadw’r ddeiseb ar agor er mwyn caniatáu i Bwyllgor y 5ed Cynulliad
ei ystyried pe byddai’n dewis gwneud hynny. |
||
P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at y Gweinidog, ar gais y deisebwyr, yn gofyn am ateb i’r cwestiynau
a godwyd yn eu llythyr. |
||
P-04-581 Gwrthwynebu’r toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr
aelodau’n dymuno diolch i’r deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor. |
||
P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog i ofyn a oes yna faes o waith yr Athro Donaldson sy’n ymwneud â
Gwyddor Gwleidyddiaeth y gallai’r deisebydd naill ai fod yn ymwneud ag ef,
neu’n gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch. Cytunodd yr Aelodau
hefyd i symud i gau’r ddeiseb unwaith y byddai ymateb wedi ei dderbyn gan y
Gweinidog. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 and 6 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(10.00-10.10) |
Trafod y Sesiynau Tystiolaeth Lafar Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i ysgrifennu at y
Gweinidog i fynegi pryderon am y sefyllfa yng ngoleuni’r cyngor a dderbyniwyd. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol |
||
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn |
||
(10.10-10.30) |
Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cofnodion: Trafododd yr Aelodau dystiolaeth a gafwyd o arolygon ac ymgynghoriadau a
gynhaliwyd, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn dilyn sesiwn dystiolaeth
lafar a gynhelir ar 8 Rhagfyr. |
|
(10.30 - 11.00) |
Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Huw Lewis AC – Gweinidog
Addysg a Sgiliau. Joanne Larner – Llywodraeth Cymru Kathryn Massey – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor. Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i: ·
Gadarnhau a yw rheoli asbestos yn cael ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddi
llywodraethwyr; a ·
Darparu gwybodaeth bellach ar aelodaeth y gweithgor asbestos a’i gylch
gorchwyl. |