Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kathryn Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd er mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor nesaf ystyried y ddeiseb ymhellach. |
|
P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a: ·
nododd fod y Gweinidog wedi ymrwymo i ysgrifennu at y Pwyllgor eto ar ôl
iddo gael cyngor gan y rhwydwaith diabetes pediatrig i Gymru gyfan: ·
cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pam ei fod wedi dod i'r
casgliad bod diagnosis prydlon unwaith y mae unigolyn yn dangos arwyddion o
ddiabetes math 1 yn ddull mwy effeithiol a hefyd gofyn a fyddai ef neu ei
swyddogion yn barod i gwrdd â’r deisebydd; ·
cytunodd i ofyn am bapur ymchwil ar ddull pob bwrdd iechyd i brofi am
ddiabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc; a ·
chytunwyd i ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf a fyddent yn ystyried cynnwys y
mater hwn ar ei flaenraglen waith ar gyfer y 5ed Cynulliad. |
|
P-04-683 Coed mewn Trefi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i: ·
aros am sylwadau pellach gan y deisebydd a gofyn i’r Pwyllgor nesaf
ystyried y ddeiseb ymhellach pan fydd ar gael; ·
tynnu sylw’r deisebydd at y paragraff olaf yn ymateb y Gweinidog, lle mae’n
awgrymu y gallent gysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghymru i ddatblygu
manteision plannu trefol a choed cymunedol a’u helpu i gyflwyno ceisiadau am
gyllid at y diben hwn, yn enwedig yng nghyd-destun gweithredu Deddf
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. |
|
P-04-684 Galwn am Ddeddfwriaeth Cynllunio Well a Mwy Effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ac am Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd Newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at
y Gweinidog yn gofyn iddo ymateb i sylwadau pellach y deisebydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy'n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n gefnogwr cofrestredig ymgyrch Achub Ysgolion Powys ac yn cymryd rhan
weithgar yn un o’i his-ymgyrchoedd. Datganodd Russell George y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei sylwadau ar y wybodaeth ychwanegol
a chwestiynau a godwyd gan y deisebydd, a hefyd pam nad yw Llywodraeth Cymru yn
casglu nac yn cadw data ar symudiadau disgyblion dros ffin Cymru/Lloegr; ac ·
anfon manylion y ddeiseb ymlaen at y Pwyllgor sy’n gyfrifol am graffu ar y
Bil Llywodraeth Leol (Cymru) pan gaiff ei gyflwyno, er mwyn iddynt allu
ystyried y materion a godwyd. |
|
P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
ysgrifennu eto at CBAC yn gofyn am yr ymateb sydd heb gyrraedd ynghylch
gohebiaeth flaenorol; ·
ysgrifennu at CLlLC i ofyn am wybodaeth am sut y mae awdurdodau lleol yn
bwrw ymlaen ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wasanaethau
Cerdd; ac ·
ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo ymateb i sylwadau pellach y deisebwyr
a hefyd y sail dros ei benderfyniad i beidio â defnyddio rhai o’r arian sydd ar
gael i ddiogelu darpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion. |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd; a ·
gofyn am grynodeb o’r gwaith a wnaed eisoes i lywio ystyriaeth y Pwyllgor
nesaf. |
|
P-04-620 Ailgyflwyno’r Terfyn Cyflymder Cenedlaethol ar Ffordd Osgoi Aberteifi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r
Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor neu ei olynydd am ei phenderfyniad terfynol
ar y gorchymyn traffig arfaethedig ac, unwaith y bydd wedi dod i law, gellir
cau’r ddeiseb gan ei bod yn nodi diwedd proses statudol. |
|
P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae’n un o sylfaenwyr y Grŵp Mynediad Llyfrgelloedd mewn Trefi
Bychain. Trafododd Aelodau ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na allent
wneud rhagor i fynd â'r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau’r ddeiseb. |
|
P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
Aros am ymateb gan y Gweinidog a Chyfoeth Naturiol Cymru; ·
Gofyn i’r Pwyllgor Amgylchedd nesaf ystyried y materion a godir gan y
ddeiseb, neu, yn dibynnu ar eu hymateb; ·
Gofyn i’r Pwyllgor nesaf i ystyried cynnal darn o waith ei hun ar y
materion a nodwyd yn y ddeiseb. |
|
P-04-595 Llwybr Foresight Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd, a chan iddynt
deimlo na allent wneud rhagor i fynd â'r mater yn ei flaen, cytunwyd i gau'r
ddeiseb. |
|
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y deisebydd a Julie
Morgan AC, a chytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor tan y bydd adolygiad RSPCA ar
berchnogaeth cŵn cyfrifol wedi cael ei gyhoeddi. |
|
P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf ystyried y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac
i rannu gohebiaeth Byrddau Iechyd gyda nhw ac, yn dibynnu ar eu penderfyniad; ·
cynghori’r Pwyllgor Deisebau nesaf gynnal darn byr o waith ar y mater. |
|
P-04-436: Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth a chytunodd i ofyn i’r deisebydd am ei sylwadau. |