Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
9.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
9.00 - 9.15 |
Deisebau newydd |
|
P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn am ei barn ar y
ddeiseb. |
||
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr i ofyn am ei farn ar y ddeiseb, gan anfon
copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol.
|
||
P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i
ofyn am ei farn ar y ddeiseb. Nododd y
Pwyllgor y posibilrwydd ei fod am edrych ar y mater yn fanylach ar ôl cael
ymateb gan y Gweinidog. Nododd y
Cadeirydd a Russell George AC eu bod ill dau wedi cwrdd â'r deisebwyr am y
mater. |
||
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn am ei barn ar y
ddeiseb. |
||
P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y
ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb gan ei bod yn
ymwneud â Llywodraeth Cymru; a ·
Phrif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn am ei barn ar
y ddeiseb. |
||
9.15 - 9.45 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-462 Gwahardd codi baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau swyddogol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Prif Weinidog yn gofyn am eglurhad o'r polisi ar faneri, ac yn benodol am y
polisi ynghylch y faner Ewropeaidd. |
||
P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am
yr oedi yn y gwaith adeiladu a sut y bydd y tagfeydd traffig yn cael eu datrys
yn y cyfamser. |
||
P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i: ·
aros am ganlyniadau'r adolygiad o derfyn cyflymder; ac ·
ysgrifennu at y deisebydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. Cynigiodd Joyce Watson AC gwrdd â'r deisebwyr ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor
yn ddiweddarach. |
||
P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwr am yr ymatebion. |
||
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i: ·
aros am ganlyniadau'r adolygiad o derfyn cyflymder; ac ·
ysgrifennu at y deisebydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau. |
||
P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gael briff
cyfreithiol am y ddeiseb ac ystyried cau'r ddeiseb ar ôl i hyn gael ei
ystyried. |
||
P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am eglurhad
gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd o'r amserlen ar gyfer ymdrin â'r mater.
|
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am eglurhad
gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd o'r amserlen ar gyfer ymdrin â'r mater.
|
||
P-04-402 Gweddïau Cyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth gan rannu
gohebiaeth a gafwyd gan Un Llais Cymru i dynnu sylw at y ffaith eu bod o blaid
yr angen i Lywodraeth Cymru gynhyrchu canllawiau cyfreithiol; ac ·
aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog. |
||
P-04-400 Safon Ansawdd NICE ym Maes Iechyd Meddwl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan
ei bod wedi'i nodi mewn gohebiaeth flaenorol bod y Safonau Ansawdd yn cael eu
mabwysiadu. |
||
P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty Dogfennau ategol: |
||
P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip Dogfennau ategol: |
||
P-04-430: Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod Dogfennau ategol: |
||
P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd Dogfennau ategol: |
||
P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y deisebau a chytunodd i: ·
grwpio deiseb P-04-455 gyda'r deisebau eraill sy'n gysylltiedig â Hywel
Dda; ·
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ynghylch Uned Mân Anafiadau
Dinbych-y-pysgod yn gofyn a fyddent yn gallu bodloni'r amodau a bennir gan y
cyngor iechyd cymuned wrth ddarparu gwasanaeth mân anafiadau yn
Ninbych-y-pysgod; ac ·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty
Llwynhelyg a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd penderfyniad terfynol
wedi'i wneud. |
||
P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at yr
Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn pryd mae disgwyl i'r ymchwiliad ddechrau, a'r
dyddiad y disgwylir ei gwblhau. |
||
P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn ar y
ddeiseb; a ·
cheisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. O dan Reol Sefydlog
17.47, gohiriodd y Pwyllgor y cyfarfod i aros am y tystion. |
||
09.54 - 10.18 |
P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi: Sesiwn Dystiolaeth Ian Thomas,
Cyfarwyddwr Cymru, Scope Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y deisebwr gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
09.45 - 10.15 |
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf: Sesiwn Dystiolaeth Dr John Cox,
Deisebydd Lynne Neagle,
Aelod Cynulliad
Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y deisebwr a Lynne Neagle AC gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i Elin Jones AC am ei gwaith ar y Pwyllgor Deisebau. |