Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
9.00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb
i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, ac roedd Elin Jones
AC yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
9.00 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Item 3. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y
cynnig. |
|
9.00 - 9.10 |
Trafodaeth am weithgarwch y Pwyllgor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r hyn y
maent am i'r Pwyllgor ei wneud yn ystod tymor yr hydref. |
|
9.10 - 9.15 |
P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol Dogfennau ategol: |
|
9.15 - 9.20 |
P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 2 Mehefin a chytunodd i ysgrifennu at: · fyrddau iechyd lleol yn unigol a gofyn iddynt a ydynt yn cofnodi unrhyw ddata ynghylch y defnydd o wasanaethau caplaniaeth; a gofyn sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd lleol; a'r · Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi gwybod iddo am y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ei wneud ar y deisebau, gan amlygu pryderon deisebwr y Gaplaniaeth Elusennol am y diffiniadau o ofal ysbrydol a chrefyddol a holi a yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu gwasanaethau caplaniaeth. Gan ddibynnu ar yr ymatebion gan fyrddau iechyd lleol a'r Gweinidog, efallai y bydd y Pwyllgor yn gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar arall ar y ddeiseb.
|
|
9.20 - 9.40 |
Deisebau newydd |
|
P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i holi
ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi
ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i holi
ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a ·
Bwrdd
Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro yn holi eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Gweinidog
yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r ·
Gweinidog
Cyllid yn holi eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb
am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi
ei farn am y ddeiseb. |
||
9.40 - 10-15 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-262 Academi Heddwch Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad yn crynhoi
canfyddiadau'r Pwyllgor drwy gydol y gwaith o ystyried y ddeiseb. |
||
P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru
yn egluro ei rôl o ran gwybodaeth i gleifion am wasanaethau canser. |
||
P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Ceredigion yn amlygu pryderon y
deisebwr am yr adolygiad annibynnol a gofyn am ei farn am y pryderon hyn. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
glywed tystiolaeth
lafar ynghylch y ddeiseb gan y deisebwyr a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol; ac ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn iddo roi tystiolaeth yn
amlygu'r pryderon sydd gan y deisebwr o hyd am y cyllid a'r gwasanaethau
annigonol i bobl ag anhwylderau bwyta. |
||
P-04-460 Moddion nid Maes Awyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
rannu
datganiad ysgrifenedig diweddar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
â'r deisebwr, ac i holi ei farn am yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Phwyllgor
Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru; ac ·
ysgrifennu
at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y pryderon am yr amser y
mae'n ei gymryd i ymateb i'r Pwyllgor.
Awgrymodd y Pwyllgor efallai y
byddai'n ystyried gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar gan bwyllgor Gwasanaethau
Iechyd Arbenigol Cymru yn y dyfodol.
|
||
P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn holi ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb datganiad y
Gweinidog yn nodi nad oes ganddo unrhyw fwriad gwneud hyfforddiant triniaeth
cynnal bywyd brys yn rhan orfodol o'r cwricwlwm. Yn ogystal, cytunodd y
Pwyllgor i roi gwybod am y ddeiseb i Lywodraethwyr Cymru. |
||
P-04-467 Arholiadau ym mis Ionawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb cyhoeddiad y
Gweinidog Addysg a Sgiliau. Yn ogystal, cytunodd y
Pwyllgor i anfon copi o ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog at y
deisebwyr. |
||
P-03-263 Rhestru Parc y Strade Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant
a Chwaraeon yn holi a fyddai Cadw'n ystyried cofrestru'r cae chwarae ym Mharc y
Strade yn y categori chwaraeon. |
||
P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y gwaith a
wnaed eisoes a chan nad yw Llywodraeth Cymru'n rhoi rhagor o gyllid iddo. |
||
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn
amlygu pryderon y deisebwr cyn yr ystyrir y mater ymhellach. |
||
P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid
canlynol yn holi eu barn am y mater: ·
Y
Comisiwn Etholiadol ·
Y
Gymdeithas Diwygio Etholiadol ·
Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ·
Un Llais
Cymru |
||
P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth
a Thrafnidiaeth yn gofyn am gynnwys y deisebwr ar y rhestr ymgynghori ar gyfer
gwaith ymgynghori ar reilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol. |
||
P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu cyfarfod rhwng y deisebwyr a
Chyngor Caerdydd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd yn ystod yr
ymweliad. |
||
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr
ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid
canlynol yn holi eu barn am y mater: ·
Cyngor
Gwynedd ·
Anabledd
Cymru ·
Age Cymru ·
Comisiynydd
Pobl Hŷn Cymru ·
Comisiynydd
Plant Cymru Rhoddodd Joyce Watson wybod
i'r Pwyllgor am ei chanfyddiadau hi yn dilyn yr ymweliad â'r deisebwyr.
Diolchodd i’r deisebwyr am gwrdd â hi ac am drafod yr hyn sy'n peri pryder
iddynt ac i staff llyfrgell Abermo am eu
croeso yn ystod yr ymweliad.
|
||
10.15 - 10.45 |
P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion: Sesiwn Dystiolaeth Arfon Rhys, Prif Ddeisebwr Sara Hawys, Ban Schoolyard Recruitment Emma Sangster, Forces Watch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Arfon Rhys, Sara Hawys
ac Emma Sangster gwestiynau'r Pwyllgor. Cytunodd Emma Sangster i roi
rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am weithgarwch y lluoedd arfog mewn ardaloedd
awdurdodau lleol yng Nghymru. |