Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad View the meeting transcript. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09.00 - 09.30) |
Deisebau newydd |
|
P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a'r Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Tai ac Adfywio; ·
Comisiynydd y Gymraeg, i ofyn am ei barn am y ddeiseb; a ·
Chadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i dynnu
sylw at y ddeiseb cyn cyflwyno Bil Cynllunio (Cymru) yn fuan. |
||
P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb; ac ·
anfon copi at y Gweinidog Addysg. |
||
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Llywydd, fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad,
i ofyn am ei barn am y ddeiseb; a ·
gwirio cofnod y trafodion ar gyfer Cyfarfod Llawn diweddar er
mwyn cyfeirio at drafodaeth a gynhaliwyd gan yr Aelodau ar faterion tebyg sy'n
ymwneud â'r ddeiseb. |
||
P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ·
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ·
Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) i
ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau ·
Y Prif Weinidog; ac ·
Undebau Athrawon yng Nghymru.
i
ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
||
P-04-530 Labelu Dwyieithog Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd; a'r ·
Prif Weinidog i
ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-531 Ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl Eicon o Gymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn ar y ddeiseb. |
||
(09.30 - 10.55) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
aros am y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau, a addawyd
gan y Gweinidog erbyn diwedd mis Ionawr 2014; ·
ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a ·
rhoi gwybod i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am y
ddeiseb. |
||
P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am unrhyw
ymateb pellach i sylwadau'r deisebydd, yn benodol, o ran y grŵp oedran targed ar gyfer pasys, o gofio newidiadau i'r oedran
cymhwysedd pensiwn. |
||
P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
dynnu sylw Aelodau Rhanbarthol ac Etholaethol y Cynulliad yn
ardal Penfro at y ddeiseb; a ·
gofyn am bapur ymchwil ar ba sefydliadau a fyddai'r rhai
gorau i gyfeirio'r ddeiseb atynt mewn perthynas â'r materion ariannu. |
||
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd yr
adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG; a ·
phan geir yr ymateb hwnnw, ystyried tynnu sylw'r Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb. |
||
P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am farn ynghylch a yw'r
arian a ddarperir drwy'r Gronfa Technolegau Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn
sicrhau y bydd triniaeth gyfartal ar gael i bobl ar draws Cymru; ·
ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog; a ·
gofyn am ymateb gan y byrddau iechyd nad ydynt wedi ymateb i
lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto. |
||
P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed beth yw barn y
deisebydd ynghylch a yw hi'n fodlon â'r esboniadau a'r camau a ddarparwyd gan y
Gweinidog ac, yn benodol, gan y Bwrdd Iechyd. |
||
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r deisebydd nodi maes penodol yr hoffai i'r Pwyllgor
gyflawni gwaith arno; ac ·
anfon copi, er gwybodaeth at Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar. |
||
P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog, a gofyn a
oes ganddo ragor o sylwadau ar y pwyntiau a wnaed; a ·
thynnu sylw Tîm Addysg y Cynulliad at y ddeiseb. |
||
P-04-517 Atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno system i fonitro plant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref o dan wedd diogelu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y
deisebydd am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i rannu gohebiaeth
y deisebydd ac i ofyn a yw ei farn ef wedi
newid
yng ngoleuni’r ohebiaeth hon; a ·
gofyn am friff cyfreithiol i roi eglurhad ynghylch o fewn
cylch gwaith pwy y daw'r mater hwn. |
||
P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd
ar ymateb y Gweinidog, yn benodol, ei gais am unrhyw dystiolaeth neu ystadegau. |
||
P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf, ac am ei farn
am sylwadau pellach y deisebydd; ac ·
Achub y Plant i ofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol (Saesneg yn unig) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei
farn ar sylwadau pellach y deisebydd, yn benodol, y pwynt fod y trefniadau
presennol yn rhoi cymhelliad gwrthnysig i berchnogion orfodi pobl sy'n
defnyddio'r cartrefi i werthu. |
||
(10.55 - 11.00) |
P-03-262 Academi Heddwch Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd
yr Aelodau ymateb y Prif Weinidog i adroddiad y Pwyllgor ar Academi Heddwch
Cymru. Cynhelir
dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Chwefror 2014. |