Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Abigail Phillips
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
9.30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor a’r cyhoedd i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
9.30-9.40 |
Deisebau newydd |
|
P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: aros am ymateb y Gweinidog i’r llythyr gan y Cadeirydd; a gohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl i’r galwad am dystiolaeth ddod i ben ar 18 Tachwedd. |
||
P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Cwm Taf; Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf; a Sefydliad Aren Cymru i geisio eu barn am y ddeiseb hon. |
||
P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r broses o drafod y mater hwn tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ar 18 Tachwedd. |
||
P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-337 Tenovus: Eli haul am ddim Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru am y mater hwn; a chyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
||
P-04-338 Deiseb ynghylch ymdrech Severn Trent Water i werthu Ystâd Llyn Efyrnwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyhoeddodd Joyce Watson ei bod yn aelod o’r RSPB. Cytunodd y Pwyllgor i: ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am eu cyfarfod â Severn Trent Water; ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn am fanylion cylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen a gaiff ei sefydlu i edrych ar brosesau gwerthu o’r fath. ysgrifennu at Severn Trent Water i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd a gynhaliwyd â’r gymuned leol. ysgrifennu at y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio ei farn am y broses o werthu a gofyn sut y mae’n bwriadu monitor materion amgylcheddol a allai godi o ganlyniad i werthu’r ystâd; ac ysgrifennu at y Gweinidog Busnes a Menter i ofyn am ei barn am y broses o werthu a gofyn sut y mae’n bwriadu monitor materion economaidd a allai godi o ganlyniad i werthu’r ystâd. |
||
9.40-10.20 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-321 Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebwr yn ei gyfarfod nesaf. |
||
P-03-220 Gostyngwch y terfyn cyflymder ar yr A40 ger y Fenni Dogfennau ategol: |
||
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: aros am gasgliadau adolygiad y Gweinidog o derfynau cyflymder ar gefnffyrdd; ac anfon ymateb y Gweinidog at y deisebwyr a rhoi gwybod iddynt y bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at eu deiseb ar ôl clywed casgliadau'r adolygiad. |
||
P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: ohirio’r broses o drafod y ddeiseb hon tan bod ymgynghoriad y Gweinidog ar ddiddymu darpariaethau perthnasol Deddfau Gwella’r Fenni 1854-1871 wedi dod i ben; ac anfon yr holl dystiolaeth y bydd y Pwyllgor yn ei chael ar y ddeiseb hon at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn unol â chais gan y deisebwr. |
||
P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ddod yn ôl at y ddeiseb hon, yn ogystal â deiseb P-04-319, yn ei gyfarfod nesaf. |
||
P-03-156 Dal anadl wrth gysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi roi sicrwydd y bydd arian digonol yn cael ei glustnodi ar gyfer safonau gofynnol grŵp cynghori'r gwasanaethau cenedlaethol ar anadlu yn y cylch cyllideb sydd i ddod, a rhoi gwybod i’r deisebwr am y cam hwnnw; a chau’r ddeiseb, o ystyried y lefelau o gydymffurfio a nodwyd gan y Gweinidog. |
||
P-03-260 Yr Ymgyrch dros Ffurfafen Dywyll Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i: nodi barn y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau ynghylch yr angen am olau digonol a chanllawiau’r Gweinidog i awdurdodau lleol ynghylch lleihau llygredd golau; a chau'r ddeiseb. |
||
P-03-305 Llyfrgelloedd Ysgol Statudol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb. |
||
P-03-263 Rhestru Parc y Strade Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i baratoi adroddiad byr, gan ddod a gwahanol agweddau ar y ddeiseb ynghyd. |
||
P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr, gan gynnwys yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth er mwyn gofyn iddynt sut yr hoffent symud ymlaen. |
||
P-03-308 Achub Theatr Gwent Dogfennau ategol: |
||
P-03-311 Theatr Spectacle Dogfennau ategol: |
||
P-03-314 Achub Theatr Powys a Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i aros am ganlyniad adolygiad y Gweinidog o brofiadau pobl ifanc o’r theatr.
|
||
P-04-328 Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Dywedodd Joyce Watson ei bod wedi lobio i gadw Canolfan Cydgysylltu Achub ar y Môr Aberdaugleddau ar agor. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar. |
||
P-03-262 Academi Heddwch Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar y mater hwn. |
||
10.20-11.00 |
Tystiolaeth lafar ar P-03-288 Strategaeth Genedlaethol ar Fyw’n Annibynnol - Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ. Cytunodd y Pwyllgor
i ofyn i’r deisebwyr am eu hymateb i gyhoeddiad y Gweinidog ar Fframwaith
Gweithredu ar Fyw’n Annibynnol, a’u hannog i ymgysylltu
â’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith hwnnw. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Trawsgrifiad |