Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding AC. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC hefyd a dirprwyodd Mick Antoniw
AC ar ei rhan. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, enwebodd Suzy Davies AC Simon Thomas AC i
fod yn Gadeirydd dros dro. Yn unol â Rheol Sefydlog 2.6, gwnaeth Simon Thomas AC, Mick Antoniw AC a
Suzy Davies AC ddatgan buddiant. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(4)-16-14 – Papur 1 – Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
CLA405 - Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014 Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 21 Mai 2014; Fe'u gosodwyd ar: 22 Mai 2014; Yn dod i rym ar: 1 Awst 2014. Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon ag ef. |
|
Papur i'w nodi - Adroddiad Blynyddol ar Sybsidiaredd 2013 CLA(4)-16-14 - Papur 2 – Adroddiad Blynyddol ar Sybsidiaredd 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur ac roedd yn fodlon ag ef. |
|
Tystiolaeth mewn perthynas â’r Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) (Amser a ddynodwyd: 13.30 – 14.15) Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio (Amser a ddynodwyd: 14.15 – 15.00) Darren Millar AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau
(Cymru) CLA(4)-16-14 – Papur 3 - Llythyr gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, tystiolaeth
ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, 28 Mai
2014 CLA(4)-16-14 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil CLA(4)-16-14 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac
Adfywio. Cafodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth gan Darren Millar AC, yr Aelod sy'n
gyfrifol am y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru). |
|
Tystiolaeth mewn perthynas â'r ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Amser a ddynodwyd 15.00 – 15.45) Yr Athro Jonathan Bradbury, Prifysgol Abertawe CLA(4)-16-14 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Pwyllgor fod yr eitem hon wedi'i gohirio. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: (vi) lle mae’r pwyllgor yn
cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei
gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson; Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat. |
|
Adroddiad Terfynol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio CLA(4)-16-14 – Papur 4 - Adroddiad Terfynol |