Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 3 MB) Gweld
fel HTML (427 KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Keith Davies, John Griffiths a Rhodri Glyn Thomas. Nid oedd Aelodau'n dirprwyo ar eu rhan. |
|
(09.00 - 10.00) |
Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3 Comisiynydd Plant Cymru Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Swyddog Polisi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru. |
|
(10.00 - 11.00) |
Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4 Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Elizabeth Lockwood, Pennaeth y Gangen Lleoli Plant ac
Oedolion Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac
Oedolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. |
|
(11.00 - 12.00) |
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yng Nghymru - y wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Jo Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl - Llywodraethiant a Gwasanaethau
Corfforaethol y GIG Sarah Watkins, Uwch-swyddog Meddygol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y diweddaraf i'r
Pwyllgor am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol i'r
Pwyllgor: Copi o Gylchlythyr Iechyd Cymru ynghylch presgripsiynu ar gyfer plant a
phobl ifanc mewn perthynas â chyffuriau gwrthiselder. Yr adroddiad terfynol gan Brifysgol Abertawe ar gyffuriau gwrthseicotig. Manylion pellach am y therapïau seicolegol a fydd ar gael i bobl ifanc ac a
fyddant ar gael ledled Cymru. Adroddiad y rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd
ym mis Ionawr. Manylion pellach am y data sydd ar gael a gasglwyd ar lefel gofal eilaidd
ar gyffuriau presgripsiwn i blant â phobl ifanc ag ADHD. Cytunodd y Pwyllgor i roi ymateb ysgrifenedig i nifer o gwestiynau na
chawsant eu gofyn. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y
papurau. |
||
Llythyr at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Llywydd - Adolygiad o Swydd Comisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Addysg a Sgiliau Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Cyllideb Ddrafft 2016-17 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Cydbwyllgor Hawliau Dynol at y Llywydd Dogfennau ategol: |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfodydd i’w cynnal ddydd Mercher 2 Mawrth a dydd Mercher 16 Mawrth Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12.15 - 12.30) |
Trafod adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor sut y bydd yn llunio'r adroddiad etifeddiaeth. |