Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson.  Roedd Keith Davies yn bresennol fel dirprwy.

 

1.2 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.

 

(09:30 - 10:30)

2.

Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Sesiwn graffu ariannol

E&S(4)-07-13 papur 1

 

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a’r Môr

Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog a'i swyddogion i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am y cynllun iawndal ar gyfer y diwydiant pysgota yn sgîl difrod y stormydd diweddar.

 

(10:45 - 12:00)

3.

Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Sesiwn graffu gyffredinol

 

Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a’r Môr

Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol

Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

 

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd Gweinidog a'i swyddogion i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am nifer y contractau Glastir a ddosbarthwyd i ffermwyr erbyn 1 Ionawr 2014, ac am nifer y contractau a ddychwelwyd hyd yn hyn.

 

3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am sylwadau'r Pwyllgor ynghylch casglu deunydd ailgylchu i fwrdd polisi'r Gweinidog ar ailgylchu.

 

4.

Papurau i'w nodi

4a

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Ymateb i’r argymhellion yn adroddiad rhywogaethau goresgynnol estron y pwyllgor

E&S(4)-07-14 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

4b

Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Y wybodaeth ddiweddar ynghylch diogelu arfordir Cymru

E&S(4)-07-14 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.