Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: 2.1 Cafodd David Rees ei ethol
yn Gadeirydd dros dro. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan
Vaughan Gething a Ken Skates ar ôl iddynt gael eu penodi yn Ddirprwy
Weinidgoion i Lywodraeth Cymru a gan Elin Jones a Darren Millar. Roedd Leighton Andrews a David Rees yn
dirprwyo. 3.2 Datganodd Leighton
Andrews, at ddiben eitem 4b, ei fod yn athro anrhydeddus yn Ysgol
Newyddiaduraeth Caerdydd. |
||
(09:30 - 12:45) |
Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - tystiolaeth ar lafar |
|
(09:30 - 10:10) |
Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot HSC(4)-23-13 papur 1 : Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg HSC(4)-23-13 papur 2 : Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr HSC(4)-23-13 papur 3 : Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan HSC(4)-23-13 papur 4 : Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Dr Sara Hayes, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dr Ian Millington, Ysgrifennydd Meddygol, Pwyllgor Meddygol Lleol Abertawe Bro Morgannwg Andrew Jones, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Dr Gillian Richardson, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan John Burge, Prif Swyddog Llywodraethu Ysgolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu'r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
(10:10 - 10:40) |
Tystiolaeth ar rôl y cyfryngau HSC(4)-24-13 papur 5 Dr Andy Williams, Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2 Bu Dr Andy Williams yn
ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 4.3 Cytunodd Dr Williams i
ddarparu copi o'r canllawiau i newyddiadurwyr a gynhyrchwyd gan y Ganolfan
Cyfryngau Gwyddoniaeth. |
|
(10:45 - 11:25 |
Tystiolaeth gan Sense ac UCL Institute of Child Health HSC(4)-24-13 papur 6 : Sense Nick Morris, Swyddog
Polisi ac Ymgyrchoedd
(Cymru), Sense Joff
McGill, Cyfarwyddwr Gwybodaeth,
Cyngor ac Ymchwil a'r arweinydd o ran imiwneiddio a rwbela, Sense HSC(4)-23-13 papur
7 : UCL Institute of Child Health Dr Helen Bedford, Uwch-ddarlithydd Iechyd Plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.4 Bu'r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. |
|
(11:25 - 12:05) |
Tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru HSC(4)-24-13 papur 8 Dr Marion Lyons, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd Dr Brendan Mason, Epidemiolegydd Rhanbarthol Dr Richard Roberts, Pennaeth, Rhaglen Frechu yn erbyn
Clefydau Ataliadwy Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau
Iechyd y Cyhoedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5 Bu'r tystion yn ateb cwestiynau
gan aelodau'r Pwyllgor. 4.6 Cytunodd Dr Sandifer i roi
manylion am nifer y brechiadau MMR a roddwyd yn ardal Abertawe yn ystod yr
ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i gael y brechiad yn 2005-6. |
|
(12:05 - 12:45) |
Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru HSC(4)-24-13 papur 9 Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Ruth
Hussey, Prif Swyddog Meddygol Andrew Riley, Uwch-swyddog Meddygol Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.7 Bu'r Gweinidog a Dr Hussey
yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor. 4.8 Cytunodd dr Hussey i roi
eglurhad am y gwahaniaeth rhwng y ffigurau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu tystiolaeth ysgrifenedig am yr ymgyrch dal i fyny
genedlaethol yn 2005. Cytunodd Dr Hussey gadarnhau, hefyd, a oedd y llythyr a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i fyrddau iechyd yn 2009 yn eu hannog i
gydymffurfio â Chylchlythyr Iechyd Cymru 2005 yn un generig neu'n un a
oedd yn canolbwyntio ar ardal ddaearyddol benodol. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6, 12, 20 a 26 Mehefin a 1 Gorffennaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor y cofnodion. 5.2 Nododd y Pwyllgor yn
ffurfiol ei fod wedi cytuno ar ei adroddiad Cygnod 1 ar gyfer y Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ac y bydd yn cael ei gyhoeddi
erbyn 19 Gorffennaf, |
||
Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan BMA Cymru HSC(4)-24-13 papur 10 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3 Nododd y Pwyllgor y papur. |
||
Ymchwiliad i'r achosion o'r frech goch 2013 - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru HSC(4)-24-13 papur 11 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4 Nododd y Pwyllgor y papur. |