Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09:30 - 10:30) |
Gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru · Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Cofnodion: 2.1 Ymatebodd Comisiynydd Pobl
Hŷn Cymru i gwestiynau gan
aelodau'r Pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor
gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Lythyr gan y Pwyllgor Deisebau: Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol: Cofnodion: 3a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr
a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau; bydd y Cadeirydd yn ymateb, gan
nodi'r ohebiaeth. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau: Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy Dogfennau ategol: Cofnodion: 3b.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr a gafwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau; bydd y Cadeirydd yn ymateb,
gan nodi'r ohebiaeth. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar y Gweinidog, Gorffennaf 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3c.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymchwiliad i’r achosion o’r frech goch 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3d.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3d.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gofyn
iddo: ·
am yr
effaith y mae cwtogi'r gyllideb diogelu iechyd ac imiwneiddio o £1.9 miliwn,
fel y nodir gan Swyddfa Archwilio Cymru'n yn ei hadroddiad, 'Cyllid Iechyd
2012-13 a Thu Hwnt' [tudalen 16], wedi ei chael; ac ·
am
ffynhonnell yr arian a ddefnyddiwyd i fynd i'r afael â'r achosion diweddar o'r
frech goch, ac a oedd yr arbedion o £1.9 miliwn yn parhau i fodoli ar ddiwedd y
flwyddyn. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor i'r achosion o'r frech goch 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3e.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 3f.1 Nododd y Pwyllgor y
flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(10:45 - 11:30) |
Trafod y flaenraglen waith Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor yr
opsiynau a'r cynigion ar gyfer ei flaenraglen waith ar gyfer y cyfnod yn dilyn
y Nadolig: |
|
(11:30 - 11:45) |
Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor sut y
bydd yn cynnal ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol, a chytunodd y
byddai'n ceisio penodi cynghorwr arbenigol. Cytunodd hefyd ar swydd-ddisgrifiad
ddrafft ar gyfer y rôl gynghorol hon. |
|
(11:45 - 12:00) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Gofal. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad
ynghylch pam yr ymddengys nad yw'r Bil Gofal yn cynnwys gofyniad cyfatebol ar
awdurdodau lleol yn yr Alban i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a
leolir yno gan awdurdodau lleol Cymru. |