Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(10.15 - 11.00) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Bu’r
Aelodau’n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn ei thrafod
ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(11.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Ni chafwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd
y Pwyllgor y canlynol:
3.2 Nododd
y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ynghylch cynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch faint o bobl sydd wedi gadael y
gwasanaeth ambiwlans yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y cynllun recriwtio a’r
gwahaniaeth net yn niferoedd y staff. |
|
(11.00 - 12.30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd Dr Andrew
Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Martin
Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Albert Heaney,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu’r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r
Dirprwy Weinidog Iechyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. 4.2
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r canlynol
i’r Pwyllgor:
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12.30 - 13.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a
chytunodd i ysgrifennu atynt i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a
gododd yn ystod y sesiwn. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r llythyr hwn yn cael ei
rannu gyda’r Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio ei waith yn craffu ar y gyllideb
ddrafft. |