Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jeff Cuthbert. Dirprwyodd Sandy Mewies ar ran Jeff Cuthbert.
|
||
(10.00-11.00) |
Ymchwiliad i Dwristiaeth - Sesiwn Dystiolaeth 9 Ken
Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dan
Clayton-Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Twristiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r
Pwyllgor. |
|
(11.00-12.00) |
Porthladdoedd a Thrydaneiddio Rheilffordd - craffu dilynol Edwina Hart AC, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth Jeff Collins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Seilwaith,
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r
Pwyllgor. 3.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i ddychwelyd i’r Pwyllgor ar gyfer craffu pellach ar ganlyniad ei
thrafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynglŷn ag ariannu
trydaneiddio. 3.3 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar yr amserlen ar
gyfer trydaneiddio rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru. 3.4 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor pan fydd ganddi ragor
o wybodaeth am y digwyddiad yn y gogledd o ran nam ar ddrws trên. 3.5 Cynigodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth i ddarparu papur i’r Pwyllgor ar ddatblygu isadeiledd
porthladdoedd yng nghyd-destun dinas-ranbarthau. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |