Agenda a Chofnodion
- Manylion Presenoldeb
- Agenda PDF 171 KB Gweld Agenda fel HTML
- Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn PDF
- Ymateb i'r Ymgynghoriad - Cyllideb Ddrafft y Llywodraeth Cymru 2015-16 PDF 7 MB
- Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 PDF 379 KB
- Cofnodion y gellir eu hargraffu PDF 239 KB Gweld Cofnodion fel HTML
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08:30-09:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Adroddiad rhag-gyllidebol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) FIN(4)-16-14
Papur 1 Don Peebles
- Pennaeth (CIPFA) yr Alban a Chynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor Cofnodion: 1.1 Cafodd
y Pwyllgor sesiwn friffio gan Don Peebles, Cynghorwr Arbenigol. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. 2.2 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09:00 - 09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Cyllideb Atodol 2014-2015: Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
(09:05-10:15) |
Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16 FIN(4)-16-14
Papur 2 Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil Y Fonesig
Rosemary Butler AC - Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn Claire
Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nicola
Callow – Cyfarwyddwr Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Roedd
Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon ac eitem 8 gan ei fod yn aelod
o Gomisiwn y Cynulliad. 4.2 Bu’r
Aelodau yn craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16
gyda'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, Claire
Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid. 4.3
Cytunodd y Llywydd i godi'r mater ynghylch tywyswyr yn casglu nodiadau Aelodau
o'r Siambr i helpu gyda Chofnod y Trafodion yn y cyfarfod nesaf. Hefyd,
ymrwymodd i ymchwilio i'r posibiliadau o ran opsiynau teithio amgen ar gyfer
ymweliadau addysgol gan ysgolion. 4.4
Cytunodd Claire Clancy i edrych ar y materion hawlfraint sy'n ymwneud â'r
adroddiad Ymddiriedolaeth Garbon a sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau os yn
bosibl ac i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pwy sy'n berchen Tŷ
Hywel. |
|
(10:30-12:30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 1 FIN(4)-16-14
Papur 4 Jane Hutt
AC - y Gweinidog Cyllid Jo Salway -
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru Matt Denham-
Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru Jeff Andrews – Cynghorydd
Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar
gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. 5.2 Nododd
y Cadeirydd y byddai'n gofyn i'r pwyllgor perthnasol i archwilio gyda'r
Gweinidog portffolio os bydd y toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl yn cael eu
cyflwyno yn gyfartal ar draws Cymru, neu a fydd rhai ardaloedd cael toriadau
mwy. 5.3
Cytunodd y Gweinidog i: ·
ddarparu
nodyn i'r Pwyllgor yn egluro'r sefyllfa o ran ardrethi annomestig ar yr amod
nad yw'n tanseilio trafodaethau gyda Llywodraeth y DU; ·
rhannu â'r
Pwyllgor rhywfaint o'r cyngor cynnar y mae'r Llywodraeth wedi ei gael ar y
broses o ddatganoli treth dir y dreth stamp; ·
cadarnhau'r
trefniadau ar gyfer dyrannu arian i Awdurdodau Lleol yn benodol ar gyfer y
gwasanaethau cymdeithasol; ·
darparu
ragor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y posibilrwydd o gael porth sgiliau i
oedolion mewn perthynas â gwasanaeth Gyrfa Cymru; ·
gwirio
cyhoeddi gwerthusiad ar y Grant Amddifadedd Disgyblion a rhoi manylion i'r
Pwyllgor; a ·
rhoi
manylion i'r Pwyllgor am gyllid buddsoddi-i-arbed. |
|
(12:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 7,
8 a 9 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd
y cynnig. |
|
(12:30-13:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
Ymatebion i'r Ymgynghoriad - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 |
||
(13:00 - 13:30) |
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a nodi y bydd adroddiad drafft yn cael ei
baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Hydref 2014. |
|
(13:30-13:45) |
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Gohebiaeth y Pwyllgor Cofnodion: 9.1 Bu’r
Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth. |