Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(08:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(08:30) |
Papurau i’w nodi Cais am ragor o wybodaeth gan Gomisiwn y Cynulliad yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2013 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
(8:30 - 9:00) |
Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Julia Hill, Gwasanaethau Cyfreithiol, Tim Amaeth a Materion Gwledig Fiona Leadbitter, Swyddog Polisi, Tim Polisi Ceffylau Cofnodion: 3.1 Cafodd y
Pwyllgor bapur briffio gan Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd,
am y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru). 3.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog, gan nodi pryderon y Pwyllgor
ynghylch y broses. |
|
(09:00-10:00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Community Links a Gofal a Thrwsio FIN(4)17-13 Paper 1 FIN(4)17-13 Paper 2 FIN(4)17-13 Paper 3 Gareth Coles, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Chris Jones, Gofal a Thrwsio David Robinson, Community Links Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Coles, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru,
Chris Jones, Gofal a Thrwsio, a David Robinson, Community Links, ynghylch
cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15. 4.2
Cytunodd Chris Jones (Gofal a Thrwsio) i anfon nodyn ynghylch sut yr aed ati i
bennu’r cyfrifiad ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Brys. 4.3
Cytunodd Gareth Coles (CGGC) i anfon nodyn yn cynnwys enghreifftiau o
brosiectau gwariant ataliol yn y trydydd sector. 4.4
Cytunodd David Robinson (Community Links) i anfon manylion adroddiadau sydd
wedi edrych ar brosiectau gwariant ataliol yn y trydydd sector. |
|
(10:00-11:00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr FIN(4)17-13 Paper 4 Y Cynghorydd Anthony Hunt, Aelod Cabinet dros Gyllid,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, a Dirprwy Lefarydd ar Gyllid Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Ness Young, Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Anthony Hunt, Aelod Cabinet dros
Gyllid, Cyngor Sir Torfaen a Dirprwy Lefarydd CLlLC ar Gyllid, Ness Young,
Cyfarwyddwr Cyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Jon Rae,
Cyfarwyddwr Adnoddau, CLlLC, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar
gyfer 2014-15. 5.2
Cytunodd CLlLC i anfon nodyn i’r Pwyllgor yn cynnwys enghreifftiau o’r arfer
gorau o ran cydgynhrychu. |
|
(11:00-12:00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol FIN(4)17-13 Paper 5 FIN(4)17-13 Paper 6 Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau
Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, ac Adam Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r
Fro, ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15. |
|
(12:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 8. Cofnodion: 7.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12:00-12:30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 8.1 Aeth yr
Aelodau ati i drafod y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd yr oeddent yn dymuno eu
trafod gyda’r Gweinidog Cyllid mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2014-15 pan fyddai’n dychwelyd i’r cyfrafod Pwyllgor ar 23
Hydref. |