Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1       Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Mike Hedges. Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09.00)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papur.

 

(09.05)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 4 a 5

 

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.05-09.45)

4.

Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth i'r Pwyllgor am ei adroddiad sydd ar y gweill (i'w gyhoeddi ar 28 Ionawr) ynghylch Llywodraeth Cymru yn Caffael a Pherchnogi Maes Awyr Caerdydd.

 

(09.45-11.00)

5.

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-03-16 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 2 Chwefror.