Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 348KB) Gweld
fel HTML (47KB) |
||
(09.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone ac Aled Roberts.
Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan. |
|
(09.05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (7 Mawrth 2016) Dogfennau ategol: |
||
Cyflogau Uwch-reolwyr: Llythyr gan Syr Derek Jones (8 Mawrth 2016) Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (9 Mawrth 2016) Dogfennau ategol: |
||
(09.05-09.20) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(4)-10-16 Papur 1 – Llythyr gan Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tiodi PAC(4)-10-16 Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-10-16 Papur 3 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Aeth Jocelyn Davies allan o’r cyfarfod tra bod y mater
hwn yn cael ei drafod. 3.2 Nododd a thrafododd yr Aelodau yr ymateb a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cytunwyd y dylai'r Cadeirydd ymateb i Lywodraeth Cymru yn gofyn am fanylion
penodol ynghylch amserlenni a'r dyddiadau y bwriedir cwblhau'r camau gweithredu
mewn perthynas ag argymhellion 2, 6, 17 a 18. |
|
(09.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5, 6 & 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.20-10.00) |
Etifeddiaeth Pwyllgorau'r Pedwerydd Cynulliad: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-10-16 Papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor ei Adroddiad Etifeddiaeth, a chytunwyd arno, yn
amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(10.00-10.45) |
Maes Awyr Caerdydd: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-10-16 Papur 5 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol
ar rai newidiadau. |
|
(10.45 - 11.00) |
Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd yn y Pwyllgor ar 8 Mawrth.
Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am
eglurhad ynghylch y dystiolaeth a gafwyd yn y cyfarfod hwnnw, ac y byddai'r cam
hwnnw'n cael ei nodi yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor. |