Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 78(v7)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gwahoddodd y
Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2F: (i) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Enwebwyd Mike
Hedges gan Dawn Bowden. Eiliodd Jeremy Miles yr enwebiad. Gan nad oedd ond un
enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod
Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig. (ii) Y Pwyllgor Deisebau Enwebwyd David
Rowlands gan Neil Hamilton. Gan nad oedd ond un
enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod
David Rowlands wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.33 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.21 Gofynnwyd cwestiwn
1 a chwestiynau 3-6. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 3 gan
Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn
3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol I Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Darren
Millar (Gorllewin Clwyd):
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw targedau’r Llywodraeth ar
gyfer asesiad PISA 2018? I Ysgrifennydd
y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru gael gafael ar y cyffur Kadcyla? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 I Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg: Darren
Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau beth yw
targedau’r Llywodraeth ar gyfer asesiad PISA 2018? I Ysgrifennydd
y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cytundeb mynediad masnachol rhwng
GIG Cymru a Roche, a fydd yn golygu y gall cleifion canser y fron yng Nghymru
gael gafael ar y cyffur Kadcyla? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.25 Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar Dîm
Rygbi’r Gynghrair Cadeiriau Olwyn Cymru. Gwnaeth Neil
Hamilton ddatganiad ar Ben-blwydd Swyddogol Ei Mawrhydi y Frenhines. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 muned) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i
gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân. Dechreuodd yr eitem am 15.29 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27 mewn perthynas â Phroses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid NDM6332 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 16, 19, 20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid' a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14.06.17; ac 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir
yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: NDM6332 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y
Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 16, 19,
20 a 27 – Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllid' a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 14.06.17; ac 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 16, 19, 20 a 27, fel y nodir yn Atodiad B i
Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i gymeradwyo protocol y gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru NDM6333 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cymeradwyo'r protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017. Cofnodion: NDM6333 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cymeradwyo'r
protocol ar y trefniadau gweinyddol ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft
flynyddol a materion eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb a gytunwyd gan y
Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 13 Mehefin 2017. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru NDM6334 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr
ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM6334 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i
ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6336 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn datgan ei hun fel senedd genedlaethol Cymru. 2.
Yn mynnu bod yr holl bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar
lefel yr UE o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. 3.
Yn mynnu ymhellach fod Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar gyfer pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd
eraill o amgylch y byd er mwyn diogelu buddiannau economi Cymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
nodi Papur Polisi Llywodraeth y DU 'The United Kingdom's exit from, and new
partnership with, the European Union' sy'n nodi ein bod eisoes wedi ymrwymo na
chaiff unrhyw benderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau
datganoledig eu tynnu oddi arnynt ac y byddwn yn defnyddio'r cyfle i ddwyn y
broses o wneud penderfyniadau yn ôl i'r DU i sicrhau bod mwy o benderfyniadau yn
cael eu datganoli. 'The
United Kingdom's exit from, and new partnership with, the European Union' Gwelliant 2.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn
nodi bod Prif Weinidog y DU wedi bod yn glir am ei bwriad i gael cytundeb
wedi'i deilwra sy'n gweithio i'r DU gyfan, sy'n sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd
bosibl o ran tariff a rhwystr â'n cymdogion Ewropeaidd, drwy gytundeb masnach
rydd newydd, cynhwysfawr, hyderus ac uchelgeisiol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.33 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6336 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn datgan ei hun fel
senedd genedlaethol Cymru. 2. Yn mynnu bod yr holl
bwerau ac adnoddau a gaiff eu harfer ar hyn o bryd ar lefel yr UE o fewn
meysydd cymhwysedd datganoledig yn cael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. 3. Yn mynnu ymhellach fod
Llywodraeth y DU yn ceisio cymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer
pob cytundeb masnach yn y dyfodol â'r UE a gwledydd eraill o amgylch y byd er
mwyn diogelu buddiannau economi Cymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6335 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) David
Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational
Wages, a'r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr
sy'n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar
gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn
rhanbarth benodol. 2.
Yn credu: a)
y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo
â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU; b)
bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar
fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal
ag o'r tu fewn iddo; c)
nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o
aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy; d)
bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid
gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr: a)
nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE; b)
nad yw'n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o
ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac c)
sy'n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd. 'The
Impact of Immigration on Occupational Wages: evidence from Britain' Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda
mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr
21ain ganrif. 2.
Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau
cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r
disgleiriaf a'r goreuon o bob cwr o'r byd. 3.
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn
system fewnfudo'r wlad. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 2.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol
Economaidd Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i
awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith
negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar
y boblogaeth a anwyd yn y DU. 2.
Yn credu y dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE
sy'n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd
gael eu diogelu. 3.
Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a
allai gyhoeddi fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw
ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system
trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru. 'London School of Economics'
Centre for Economic Performance' [Os derbynnir
gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 3.
Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd
ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi
â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus; 2.
Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef: a)
cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r
Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a b)
cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar
gyflogau isel. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.24 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6335 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) David Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi papur
gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a'r
casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy'n gweithio
mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at
dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol. 2. Yn credu: a) y byddai gan
system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau,
yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU; b) bod sefydliadau
cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar
hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o'r tu fewn iddo; c) nad yw mewnfudo
heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau'r Undeb
Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy; d) bod polisi
mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion
yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr: a) nad yw'n
gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE; b) nad yw'n dyblygu
o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o ran hawl
gweithwyr i symud yn rhydd; ac c) sy'n ceisio
cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod gan
Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn
chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain
ganrif. 2. Yn cydnabod
ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus,
busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r disgleiriaf a'r
goreuon o bob cwr o'r byd. 3. Yn croesawu
bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system
fewnfudo'r wlad. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod
dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd
Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu
bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith negyddol
sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y
boblogaeth a anwyd yn y DU. 2. Yn credu y
dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw ac
yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu
diogelu. 3. Yn credu bod
angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi
fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn
gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau
gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi
yn ei le: Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan
Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i
ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus; 2. Yn cefnogi'r
dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef: a) cysylltu hawl
gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas
Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a b) cynyddu'r
ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau
isel. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6335 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) David Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ailddatgan ei
gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan
Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i
ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus; 2. Yn cefnogi'r
dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef: a) cysylltu hawl
gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas
Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a b) cynyddu'r
ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau
isel.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 18.14 Cytunwyd o dan Reol
Sefydlog 12.24 i drafod y cynigion canlynol gyda’i gilydd a chytunwyd o dan
Reol Sefydlog 12.40 i grwpio’r pleidleisiau ar y cynigion. NDM6341 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Gareth Bennett
(Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Vikki Howells (Llafur); NDM6342 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mike Hedges
(Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau yn lle Gareth Bennett (Plaid
Annibyniaeth y Deyrnas Unedig). NDM6343 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Vikki Howells
(Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mike Hedges (Llafur). NDM6344 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Gareth Bennett
(Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes lle David
Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig). NDM6345 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol Neil
Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. NDM6346 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 ac 17.13(ii), yn ethol David
Rowlands (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelod o'r Pwyllgor Craffu ar
Waith y Prif Weinidog. Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.15 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6331 Vikki
Howells (Cwm Cynon) Yr
heriau aml-ochrog sy'n deillio o dlodi yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.19 NDM6331 Vikki Howells (Cwm Cynon) Yr heriau
aml-ochrog sy'n deillio o dlodi yng Nghymru |