Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 112(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 2–9. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 3, 5, 6, 8 a 9 gan
Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 2 a 7 gan y Gweinidog Tai ac
Adfywio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Russell George
(Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am
fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn TVR? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.04 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff
Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad £2.5 miliwn gan Lywodraeth
Cymru yn TVR? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.19 Gwnaeth
Dawn Bowden ddatganiad ar Synagog Merthyr Tudful. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad i nodi 23 mlynedd ers ail-agor Glofa’r Tŵr. Gwnaeth
Simon Thomas ddatganiad ar Fws Arfordir Llŷn. |
|||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.23 NDM6630
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy
Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod NDM6576
Steffan
Lewis (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr
holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru
lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol
â Deddf Cymru 2017. Cefnogwyr: Adam
Price (Dwyrain Casnewydd a Dinefwr) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.24 NDM6576
Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan
o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6565 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd
canabis at ddibenion meddyginiaethol. 2. Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU
lle mae'r cyffur rheoli symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod
dim ond wedi'i drwyddedu i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp
bach o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol (MS) ac sy'n bodloni'r meini prawf. 3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y
DU ailddyrannu canabis at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer
y canlyniad hwn, y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod
system o fewn y GIG lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael
drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai elwa ohono. 4. Yn nodi: a) bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel
sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio
canabis a gawsant yng anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy
wneud hynny, yn wynebu'r risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau
eraill; b) bod y grŵp seneddol hollbleidiol ar
ddiwygio'r polisi ar gyffuriau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi galw'n bendant ar
Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei
ymchwiliad saith mis i'r mater a chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol o
dystiolaeth fyd-eang o dan arweiniad yr Athro Michael P. Barnes; c) bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis
a deilliadau canabis at ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel
a bod dros 20 talaith yn yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at
ddefnydd meddygol; d) bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r
Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r
Iseldiroedd; e) bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw
ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis
at ddefnydd meddyginiaethol, yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio
canabis i drin poen a spastigedd; f) y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros
Gasnewydd, Paul Flynn, ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei
drosglwyddo'n ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror
2018. Report
of the Inquiry of the All Party Parliamentary Group for Drug Policy Reform into
medicinal cannabis (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.56 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6565 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion
meddyginiaethol. 2.
Yn cydnabod, er mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae'r cyffur rheoli
symptomau canabinoid Sativex ar gael ar y GIG, ei fod dim ond wedi'i drwyddedu
i drin sbastigedd ac yna dim ond ar gael i grŵp bach o bobl sy'n byw gyda
sglerosis ymledol (MS) ac sy'n bodloni'r meini prawf. 3.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU ailddyrannu canabis
at ddibenion meddyginiaethol; ac, wrth baratoi ar gyfer y canlyniad hwn, y
dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellid sicrhau bod system o fewn y GIG
lle gallai canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn
i'r rhai a allai elwa ohono. 4.
Yn nodi: a)
bod llawer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia,
epilepsi a chanser yng Nghymru yn defnyddio canabis a gawsant yng
anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol ond, drwy wneud hynny, yn wynebu'r
risg o gael eu herlyn a hefyd wynebu perygl o gyffuriau eraill; b)
bod y grŵp seneddol hollbleidiol ar ddiwygio'r polisi ar gyffuriau yn
Nhŷ'r Cyffredin wedi galw'n bendant ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni
canabis meddygol yn seiliedig ar ganlyniadau ei ymchwiliad saith mis i'r mater
a chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang o dan
arweiniad yr Athro Michael P. Barnes; c)
bod nifer cynyddol o wledydd sy'n rheoleiddio canabis a deilliadau canabis at
ddefnydd meddygol, megis Canada, yr Iseldiroedd, Israel a bod dros 20 talaith yn
yr Unol Daleithiau yn rheoleiddio canabis gwair at ddefnydd meddygol; d)
bod nifer o wledydd, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i
fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd; e)
bod MS Society UK wedi newid ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a
chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd
meddyginiaethol, yn sgil tystiolaeth gadarnhaol am ddefnyddio canabis i
drin poen a spastigedd; f)
y cafodd Bil rheol 10 munud yr Aelod Seneddol dros Gasnewydd, Paul Flynn, ar
gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol ei drosglwyddo'n
ddiwrthwynebiad ar 10 Hydref i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol NDM6624
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 NDM6624
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau
Gofal Sylfaenol, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2017. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6625
Lee
Waters (Llanelli) Mae'r robotiaid yn dod – mae angen i Gymru gael
cynllun ar gyfer awtomateiddio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.42 NDM6625
Lee Waters (Llanelli) Mae'r
robotiaid yn dod – mae angen i Gymru gael cynllun ar gyfer awtomateiddio |