Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 279(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd
yr eitem am 11.00 Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn
rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo
yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at
ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor
Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob
un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol
Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel
sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y
ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y
byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod
Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Munud o Dawelwch Cyn dechrau
trafodion heddiw gofynnodd y Llywydd i Aelodau’r Senedd ymuno â hi i gynnal
munud o dawelwch i gofio George Floyd a sefyll mewn undod â mudiad Black Lives
Matter ym mhob cwr o’r byd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 11.01 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 11.01 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd unrhyw
Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.21 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol NDM7330 Julie
James (Gorllewin Abertawe): Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd
y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol
i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mehefin 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2019-21 (Saesneg
yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 NDM7330 Julie
James (Gorllewin Abertawe): Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ansolfedd a
Llywodraethu Corfforaethol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mehefin 2020 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020 NDM7329 Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru): Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2,: Yn cytuno bod Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio
Etholiadau) (Cymru) 2020, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 29 Ebrill 2020,
yn cael eu dirymu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.36 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7329 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2,: Yn
cytuno bod Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau)
(Cymru) 2020, a osodwyd gerbron
y Cynulliad ar 29 Ebrill 2020, yn cael eu dirymu. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Yr Economi a Covid-19 NDM7331 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl
ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19; b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac
ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth
amgen yn dilyn yr argyfwng; c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut
y dylai Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad o’r argyfwng; a d) sefydlu "Cronfa Adnewyddu Cymru
Gyfan" gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein
gwlad. Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r pecyn o
gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan
gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu
dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd
wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi
newydd. 2. Yn nodi Cronfa
Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu
miloedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i
gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol. 3. Yn nodi’r gwaith
arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws
Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog
yr Economi yn ei wneud i nodi rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn
gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac
yn ystod y cyfnod adfer. 4. Yn croesawu’r
trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog yr Economi wedi’u cael gyda phob parti
ynglŷn â sut y gellir cynnig y rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth
inni ddod allan o gyfnod y Coronafeirws. 5. Yn cydnabod bod
angen gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i
Ailadeiladu’n Well ar gyfer y dyfodol. 6. Yn cydnabod bod
Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron £2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19
ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r
Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol
i ysgogi’r economi a fydd yn gallu ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei
wneud i greu adferiad gwyrdd a theg. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Yn is-bwynt (a), dileu
'cyflogaeth' a rhoi yn ei le 'prentisiaeth'. Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnwys ar ddiwedd
is-bwynt (b): 'a chyflwyno rhaglenni
cadw a datblygu sgiliau cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y sectorau sy'n
wynebu'r risg fwyaf er mwyn sicrhau na chollir y gallu na'r cyfle i uwchsgilio'r
gweithlu lleol yn ystod y cyfnod hwn o lai o weithgarwch.' Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Yn is-bwynt (c), dileu
'cynulliad dinasyddion' a rhoi yn ei le 'tasglu trawsbleidiol'. Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu is-bwynt d) a
rhoi yn ei le: 'sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol
Covid i gefnogi'r trefi a'r cymunedau hynny y mae eu heconomïau wedi'u taro
galetaf gan y pandemig.' Gwelliant 6 – Neil
McEvoy (Caol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Er mwyn ailadeiladu
Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) sicrhau bod y
cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu
eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw; b) rhoi cymorth i'r
rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn
ystod yr argyfwng; c) deddfu i alluogi
cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru;
a d) cyfeirio'i pholisi
economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy
greu diwydiant chwisgi cyflawn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7331 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) sefydlu cynllun gwarantu
cyflogaeth i bobl ifanc sy’n dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19; b) sefydlu cynllun
ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd
angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn yr argyfwng; c) cynnull cynulliad
dinasyddion i drafod sut y dylai Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad
o’r argyfwng; a d) sefydlu "Cronfa
Adnewyddu Cymru Gyfan" gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o
ailadeiladu ein gwlad.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael
ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n
gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o
ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a
mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd. 2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru,
sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng
Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd
yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol. 3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr
adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler
Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi
rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n
effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer. 4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog
yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y
rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y
Coronafeirws. 5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth
gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y
dyfodol. 6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron
£2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd
faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu
ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a
theg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2,
3, 4 a 5 eu dad-ddethol Gwelliant
6 – Neil McEvoy (Caol De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Er
mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i argyfwng Covid-19, yn galw
ar Lywodraeth Cymru i: a)
sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes Covid-19 yn cefnogi busnesau
sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n berchen ar yr eiddo hwnnw; b)
rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n talu rhent llawn i
gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng; c)
deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais llwyddiannus am gontractau sector
cyhoeddus Cymru; a d)
cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff ei arwain gan allforio
bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael
ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n
gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o
ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a
mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd. 2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru,
sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng
Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd
yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol. 3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr
adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler
Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi
rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n
effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer. 4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog
yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y
rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y
Coronafeirws. 5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth
gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y
dyfodol. 6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron
£2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd
faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu
ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a
theg.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.55 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o bleidleisiau 10.06.20 Dogfennau ategol: |