Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 304(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.31 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.22 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) NDM7486
Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig bod y Senedd yn
unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Bil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (heb ei wirio) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.17 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7486 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru). Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar
ôl Cyfnod 3 (heb ei wirio) Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Cwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw
gwestiynau amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.28 Gwnaeth Jenny Rathbone
ddatganiad am Wythnos Cyflog Cyfartal. Gwnaeth Huw Irranca-Davies
ddatganiad i nodi 100 mlynedd ers sefydlu cymdeithas yr Association of Wrens,
ac ymddeoliad WO1 Barbara McGregor. Gwnaeth Llyr Gruffydd
ddatganiad ar brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.34 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 12.21(iv) - Cartrefu ceiswyr lloches yng ngwersyll milwrol Penalun NDM7455 Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y dylai Llywodraeth
y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol
cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan filwrol Penalun, ger
Dinbych-y-pysgod. 2. Yn credu y dylid
ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i geiswyr lloches, gan ei
fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth priodol. 3. Yn condemnio'r
protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell dde eithafol o'r tu allan
i Sir Benfro. 4. Yn canmol trigolion
a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi croesawu a chefnogi'r
ceiswyr lloches. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn condemnio'r
anrhefn sydd wedi digwydd o fewn canolfan filwrol Penalun, ger
Dinbych-y-pysgod, yn ystod y cyfnod pan y rhoddwyd llety i geiswyr lloches yno
dros yr wythnosau diwethaf, sydd wedi arwain at bresenoldeb rheolaidd gan yr
heddlu. 2. Yn nodi adroddiadau
yr arestiwyd pump ceisiwr lloches sy'n byw yng nghanolfan filwrol Penalun ar 10
Tachwedd 2020 ac adroddiadau am ddau arestiad y tu mewn i'r ganolfan ym mis
Hydref 2020. 3. Yn nodi ymhellach
adroddiadau am geiswyr lloches sy'n byw yng nghanolfan filwrol Penalun yn torri
rheoliadau a chanllawiau coronafeirws ac yn ymddwyn yn afreolus wrth deithio y
tu allan i'r ganolfan; a'r gofid a achoswyd i drigolion Penalun o ganlyniad i
hyn. 4. Yn credu mai un o
achosion rhannol y sefyllfa yn Penalun yw methiant Llywodraeth y DU i weithredu
rheolaethau mewnfudo a ffiniau dyngar, cadarn a theg sy'n sicrhau nad yw
trigolion tramor nad ydynt yn drigolion y DU, ac yn enwedig y rhai y gwrthodwyd
ceisiadau am loches iddynt neu sydd wedi gwrthod yr hawl i breswylio mewn
gwledydd diogel eraill, yn dod i mewn neu'n aros yn y DU yn anghyfreithlon. 5. Yn credu ymhellach
mai un o achosion rhannol arall y sefyllfa yn Penalun yw cynllun cenedl noddfa
Llywodraeth Cymru, sy'n annog pobl tramor nad ydynt yn drigolion y DU i ddod i
mewn i'r DU yn anghyfreithlon ac yna gwneud hawliadau am loches tra byddant
wedi'u lleoli yng Nghymru. 6. Yn condemnio'n gryf
ymddygiad treisgar, brawychus, tanseiliol a chuddiedig pleidiau a sefydliadau
gwleidyddol y chwith eithafol weithiau, gan gynnwys Stand Up To Racism, Hope
not Hate a Far Right Watch Wales, sydd wedi'i gyfeirio at bobl sy'n mynegi barn
wleidyddol ddilys a rhesymol mewn perthynas â'r sefyllfa yn Penalun. 7. Yn credu bod barn
trigolion Penalun o leiaf yr un mor bwysig â'r bobl hynny y cyfeirir atynt fel
gwirfoddolwyr, grwpiau rhanddeiliaid, a chynrychiolwyr; ac yn canmol y rhan
fwyaf o drigolion Penalun sydd o blaid rheolaethau mewnfudo a ffiniau dyngar,
cadarn a theg yn y DU, ac yn berthnasol i Penalun yn benodol. 8.
Yn credu y dylid rhoi'r gorau i roi llety i geiswyr lloches yng nghanolfan
filwrol Penalun. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.39 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7455 Helen Mary Jones
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU fod wedi cynnal trafodaethau gyda
Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr lleol cyn rhoi llety i geiswyr lloches yng
nghanolfan filwrol Penalun, ger Dinbych-y-pysgod. 2. Yn credu y dylid ailystyried y penderfyniad am ei fod yn lle anaddas i
geiswyr lloches, gan ei fod wedi'i ynysu oddi wrth rwydweithiau cymorth
priodol. 3. Yn condemnio'r protestiadau treisgar a drefnwyd gan grwpiau'r asgell
dde eithafol o'r tu allan i Sir Benfro. 4. Yn canmol trigolion a gwirfoddolwyr lleol o bob rhan o Gymru sydd wedi
croesawu a chefnogi'r ceiswyr lloches. Cyd-gyflwynwyr Cefnogwyr
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau NDM7477 Helen Mary Jones
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu, 'Effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2020. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi
2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.21 NDM7477 Helen Mary Jones
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith COVID-19 ar dreftadaeth,
amgueddfeydd ac archifau', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Awst 2020. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi
2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 16.51 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19 NDM7480 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi lefelau uchel
parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd y de, gydag ardaloedd o
fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn profi rhai o'r cyfraddau
uchaf yn y DU. 2. Yn nodi'r ymchwil a
gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r pandemig wedi cael effaith
anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Lloegr ac wedi gwaethygu
gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth Brydeinig. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch
yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i gael mesurau cymorth
ychwanegol a fyddai'n cynnwys: a) cymorth ychwanegol
i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac na allant weithio gartref; b) cynyddu'r grant
hunanynysu i £800; c) adnoddau ychwanegol
ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau lleol; d) llety gwirfoddol
ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n ddiogel gartref; e) mwy o brofion i
ganfod achosion asymptomatig; f) blaenoriaeth ar
gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw frechlyn yn gynnar; g) cryfhau ymgyrchoedd
cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i gadw at ganllawiau iechyd y
cyhoedd: h) adnoddau ychwanegol
ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer awdurdodau lleol a hyrwyddwyr
cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID cenedlaethol; i) mesurau
amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol, gan gynnwys
gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth; j) adnoddau ychwanegol
ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy; k) mesurau ychwanegol
i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg; l) mwy o gefnogaeth i
fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r gorau i fasnachu'n wirfoddol
dros dro; m) gorchmynion
gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod
ardaloedd sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r
cymorth ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan
Lywodraeth y DU. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol
i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r
cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de. 3. Yn credu mai'r
ymateb gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19
yng Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Cyd-gyflwynwr [Os derbynnir gwelliant
1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol.] Gwelliant 2 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 1 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio
COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai
ardaloedd. Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth ar ôl
pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r lefelau
hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd
y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd
i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a
roddwyd i Lywodraeth Cymru. Yn credu y dylid rhoi
mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn
sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros
am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag
amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru: a) targedu ardaloedd
lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau
call wedi'u targedu lle y bo'n briodol; b) cynyddu'r nifer o
ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno
er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau
aros; c) targedu profion
mewn ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr
wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r
sector gofal cymdeithasol; d) comisiynu
ymchwiliad brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff
eu trosglwyddo mewn ysbytai; e) cyflwyno pecyn
cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng
Nghymru; f) ôl-ddyddio taliadau
hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau
eraill o'r DU; g) dyrannu gweddill yr
arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r
coronafeirws. [Os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol.] Gwelliant 4 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith
i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle
mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng
Nghymru, gan gynnwys: a) cynyddu’r gallu i
brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd; b) cyllid a chymorth
ychwanegol i awdurdodau lleol; c) ymgyrchoedd helaeth
i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau
cymdeithasol; d) cymorth i ailagor
ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel; e) cyllid ar gyfer
adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru; f)
taliad hunanynysu o £500. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.00 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7480 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi lefelau uchel parhaus cyfraddau heintio COVID-19 yng nghymoedd
y de, gydag ardaloedd o fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan yn
profi rhai o'r cyfraddau uchaf yn y DU. 2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r
pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd
Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth
Brydeinig. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddynodi ardaloedd lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uwch yn ardaloedd cymorth arbennig COVID i fod yn gymwys i
gael mesurau cymorth ychwanegol a fyddai'n cynnwys: a) cymorth ychwanegol i'r rhai sy'n agored i niwed o safbwynt clinigol ac
na allant weithio gartref; b) cynyddu'r grant hunanynysu i £800; c) adnoddau ychwanegol ar gyfer timau profi ac olrhain ac awdurdodau
lleol; d) llety gwirfoddol ychwanegol i'r rhai nad ydynt yn gallu hunanynysu'n
ddiogel gartref; e) mwy o brofion i ganfod achosion asymptomatig; f) blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno unrhyw
frechlyn yn gynnar; g) cryfhau ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus lleol i'w gwneud yn haws i
gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd: h) adnoddau ychwanegol ar gyfer wardeiniaid COVID lleol ar gyfer
awdurdodau lleol a hyrwyddwyr cymunedol COVID i ailadrodd negeseuon atal COVID
cenedlaethol; i) mesurau amddiffynnol ychwanegol mewn ysgolion ac ar gludiant i'r ysgol,
gan gynnwys gwisgo masgiau mewn ystafelloedd dosbarth; j) adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal plant diogel a fforddiadwy; k) mesurau ychwanegol i liniaru'r rhaniad digidol a tharfu ar addysg; l) mwy o gefnogaeth i fusnesau a phobl hunangyflogedig sy'n dewis rhoi'r
gorau i fasnachu'n wirfoddol dros dro; m) gorchmynion gwasgaru yng nghanol trefi ar ôl cau tafarndai.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Gareth Bennett (Canol De
Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod ardaloedd
sy'n parhau i fod â nifer fawr o achosion o COVID-19 wedi elwa o'r cymorth
ariannol o £5 biliwn a roddwyd i Gymru yn ystod pandemig COVID-19 gan
Lywodraeth y DU. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â strategaeth COVID-19 sy'n wahanol
i'r strategaeth gan Lywodraeth y DU yn gyson ac nad yw hyn wedi helpu'r
cyfraddau heintio uchel parhaus sy'n gyffredin yng nghymoedd y de. 3. Yn credu mai'r ymateb
gorau i gynorthwyo'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan COVID-19 yng
Nghymru yw drwy gael ymateb unedig yn y DU, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Cyd-gyflwynwr Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n
cadw llygad yn barhaus ar lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o
ystyried bod y cyfraddau heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r lefelau
hanesyddol o gyllid gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i holl ranbarthau a chenhedloedd
y DU, gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chyfraddau heintio uchel, i fynd
i'r afael â pandemig COVID-19, yn enwedig y £5 biliwn o arian ychwanegol a
roddwyd i Lywodraeth Cymru. Yn credu y dylid rhoi
mesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn
sgil adroddiadau yn y cyfryngau bod o leiaf 9,000 o gleifion wedi bod yn aros
am fwy na blwyddyn am driniaeth gan y GIG ym mis Medi yn yr ardal honno, gydag
amseroedd aros i fod i gynyddu ymhellach yn dilyn effaith COVID-19. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu'r canlynol mewn perthynas ag ardaloedd lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uwch, yn ogystal ag ardaloedd eraill ledled Cymru: a) targedu ardaloedd lle
mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uwch yng Nghymru, gan gynnwys cyfyngiadau
call wedi'u targedu lle y bo'n briodol; b) cynyddu'r nifer o
ysbytai sy'n rhydd o COVID a chyfleusterau ysbyty dros dro a gaiff eu cyflwyno
er mwyn lleddfu'r pwysau ar y system gofal iechyd a mynd i'r afael â rhestrau
aros; c) targedu profion mewn
ardaloedd lle ceir problemau a chyflwyno sgrinio asymptomatig ddwywaith yr
wythnos ar gyfer yr holl staff sy'n wynebu cleifion yn y GIG yng Nghymru a'r
sector gofal cymdeithasol; d) comisiynu ymchwiliad
brys i farwolaethau a heintiau sy'n gysylltiedig ag achosion a gaiff eu
trosglwyddo mewn ysbytai; e) cyflwyno pecyn
cymorth tosturiol i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed gan y coronafeirws yng
Nghymru; f) ôl-ddyddio taliadau
hunanynysu yng Nghymru hyd at 28 Medi er mwyn sicrhau chwarae teg gyda rhannau
eraill o'r DU; g) dyrannu gweddill yr
arian nas gwariwyd a ddarparwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi i fynd i'r afael â'r
coronafeirws. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le: Yn nodi bod Llywodraeth
Cymru wedi rhoi ystod eang o fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r
pandemig COVID-19, gyda’r nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau
heintio COVID-19 yn uchel yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan
gynnwys: a) cynyddu’r gallu i
brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd; b) cyllid a chymorth
ychwanegol i awdurdodau lleol; c) ymgyrchoedd helaeth i
roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau
cymdeithasol; d) cymorth i ailagor
ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel; e) cyllid ar gyfer
adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru; f) taliad hunanynysu o
£500. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7480 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru’n cadw llygad yn barhaus ar
lefelau cyfraddau heintio COVID-19 ar draws Cymru, o ystyried bod y cyfraddau
heintio yn uchel mewn rhai ardaloedd. 2. Yn nodi'r ymchwil a gynhaliwyd yn Lloegr sy'n dangos bod effeithiau'r
pandemig wedi cael effaith anghymesur ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng ngogledd
Lloegr ac wedi gwaethygu gwahaniaethau rhanbarthol hirsefydlog y wladwriaeth
Brydeinig. 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystod eang o
fesurau cymorth cenedlaethol ar waith i ymateb i’r pandemig COVID-19, gyda’r
nod o gynorthwyo’r ardaloedd hynny lle mae cyfraddau heintio COVID-19 yn uchel
yn ogystal ag ardaloedd eraill yng Nghymru, gan gynnwys: a) cynyddu’r gallu i
brofi ac olrhain cysylltiadau a chyflwyno dewisiadau profi newydd; b) cyllid a chymorth
ychwanegol i awdurdodau lleol; c) ymgyrchoedd helaeth i
roi gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws sianelau’r cyfryngau a’r cyfryngau
cymdeithasol; d) cymorth i ailagor
ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn ddiogel; e) cyllid ar gyfer
adferiad economaidd ac ar gyfer busnesau yng Nghymru; f) taliad hunanynysu o
£500.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.51 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. Dechreuodd yr eitem am 17.58 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7479 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Manteision llesiant y
celfyddydau mewn pandemig. Edrych
ar sut y gall y celfyddydau gael effaith gadarnhaol iawn ar lesiant corfforol a
meddyliol unigolyn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.04 NDM7479 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Manteision llesiant y
celfyddydau mewn pandemig. Edrych ar sut y gall y celfyddydau
gael effaith gadarnhaol iawn ar lesiant corfforol a meddyliol unigolyn. |