Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 308(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
Datganiad y Llywydd Dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau ei bod wedi cael dau
gais am ddadl frys ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd, a bod y Llywodraeth,
yn y cyfamser, wedi cyflwyno cynnig ar gyfer dadl dydd Mawrth nesaf ar yr un
mater. Dywedodd y Llywydd ei bod yn disgwyl y bydd y cynnig yn rhoi cyfle i’r
Senedd gael pleidlais ystyrlon ar y cynnig ac unrhyw welliannau a gyflwynir,
i’r bleidlais honno fod yn ddylanwadol o ran parhad y rheoliadau ai peidio. Am
y rheswm hwnnw, roedd y Llywydd wedi penderfynu peidio â galw’r naill Aelod
na’r llall i gynnig dadl frys i’w chynnal heddiw. Yna, galwodd y Llywydd ar Andrew RT Davies a Sian
Gwenllian i wneud sylwadau ar gyfer y cofnod. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw
ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.34 Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4-9. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Cafodd
cwestiynau 6 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw
ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.28 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 ac 8
gan Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i
Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion
Gwledig: Llyr
Gruffydd (Gogledd
Cymru): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r toriadau i gyllid amaethyddol
Cymru a gyhoeddwyd yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 25 Tachwedd 2020? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.18 I Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r toriadau
i gyllid amaethyddol Cymru a gyhoeddwyd yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU
ar 25 Tachwedd 2020? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.30 Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad am – gwaith y cydlynwyr ardal leol yn Abertawe yn ystod y pandemig Gwnaeth Ann Jones ddatganiad
am - Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau – ‘Nid yw pob anabledd yn
weladwy’. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 02-20 NDM7493 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad, Adroddiad 02-20, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 25 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.34 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7493 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, Adroddiad 02-20, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliad yn yr adroddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.38 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol NDM7491 Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu, Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r
cyfryngau lleol, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2020. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd
2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.46 NDM7491 Helen Mary Jones
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Effaith argyfwng COVID-19 ar
newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2020. Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd
2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth NDM7494 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith
a Sgiliau ar ei ymchwiliad: Datgarboneiddio trafnidiaeth a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 NDM7494 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad: Datgarboneiddio
trafnidiaeth a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020. Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.58 cafodd y cyfarfod ei atal dros
dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Y sector bwyd NDM7495 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod
eang o agendâu polisi yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr
economi a thlodi; 2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu
polisi bwyd cenedlaethol cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu
bwyd Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf; 3. Yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi amlygu
gwendidau ein system fwyd bresennol. 4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr
Cymru yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio. 5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a
bioamrywiaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n
sylweddol ar y system fwyd fyd-eang. 6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn
y DU wedi profi ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod
Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru
rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â
pholisi bwyd yng Nghymru drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei
gilydd a rhoi iddo’r dasg o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas
i genedlaethau'r dyfodol; b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu
gwrthsefyll ffactorau allanol yn y tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd; c) datblygu gallu prosesu lleol ledled
Cymru; d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff
ei gaffael drwy wasanaethau cyhoeddus. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rebecca
Evans (Gŵyr) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod mynediaf at fwyd a gwarchod yr
amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi
gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus. 2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa
Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r
mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi yn cael eu llywio gan
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff
cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y
cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer
cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon
uchel; c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y
sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn
yr economi sylfaenol; d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac
ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru. Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2. Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 7: cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau,
caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig o ffynonellau lleol a helpu i
hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr; datblygu strategaeth dwristiaeth i hyrwyddo
llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ledled Cymru; gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo
bwyd a diod o Gymru dramor. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.06 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7495 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod eang o agendâu polisi
yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi; 2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu polisi bwyd cenedlaethol
cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu bwyd Llywodraeth Cymru
dros y degawd diwethaf; 3. Yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi amlygu gwendidau ein system
fwyd bresennol. 4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn y
broses o gadw ein silffoedd wedi stocio. 5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a bioamrywiaeth yn cynyddu'r
tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y system fwyd
fyd-eang. 6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn y DU wedi profi
ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod Ymddiriedolaeth
Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill
a mis Medi 2020. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru
drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei gilydd a rhoi iddo’r dasg
o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol; b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu gwrthsefyll ffactorau allanol yn y
tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd; c) datblygu gallu prosesu lleol ledled Cymru; d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff ei gaffael drwy
wasanaethau cyhoeddus.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei
ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod mynediad
at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi
incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a
chyrff cyhoeddus. 2. Yn croesawu'r adroddiad
gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y
dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i ddod â ffermwyr,
busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag
at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r
dyfodol; b) i ddisodli system o
daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol
yn ogystal â bwyd o safon uchel; c) i hyrwyddo gweithio
teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n
cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol; d) i gefnogi prosiectau
tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru. Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod mynediad
at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi
incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a
chyrff cyhoeddus. 2. Yn croesawu'r
adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac
yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu
llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r pum ffordd o
weithio. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i ddod â ffermwyr,
busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag
at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r
dyfodol; b) i ddisodli system o
daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol
yn ogystal â bwyd o safon uchel; c) i hyrwyddo gweithio
teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n
cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol; d) i gefnogi prosiectau
tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru. Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Derbyniwyd y cynnig fel y’i
diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18,
am 18.00 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y
Cyfnod Pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau 02.12.20 Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7492 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Bywyd gwyllt eiconig Cymru: trafferthion
gwiwerod coch Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM7492 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Bywyd gwyllt eiconig Cymru: trafferthion gwiwerod coch
Cymru. Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd
Mawrth, 8 Rhagfyr 2020 |