Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 513KB) Gweld
fel HTML (204KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Mynegodd Neil McEvoy AC bryderon ynghylch neges ar y cyfryngau cymdeithasol
gan Carl Sargeant AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant) yn dilyn
cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mai 2017. Dywedodd y Cadeirydd y gall y Pwyllgor
ddychwelyd at y mater hwn pan fydd y ddeiseb dan sylw (P-05-751 Cydnabod
Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant) yn cael ei thrafod y tro nesaf. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-749 Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb
y deisebwyr i'r wybodaeth sydd wedi dod i law cyn penderfynu ar unrhyw gamau
pellach i'w cymryd. |
||
P-05-753 Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu'r sylwadau
a wnaed gan y deisebydd ac i ofyn am ymateb pellach iddynt. |
||
P-05-755 Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
||
P-05-756 Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
|
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu sylwadau a
wnaed gan y deisebydd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y bydd
cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn 2017-18 yn cael ei
ddefnyddio. |
||
P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau priodol i'w cymryd. |
||
P-05-718 Cyflogau GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen
yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd. |
||
P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i dynnu sylw at y pryderon
a chynigion ar gyfer gwella a wnaed gan y deisebydd a Hafal, ac i ofyn am ragor
o wybodaeth am y cynlluniau i wella ymatebolrwydd gwasanaethau. |
||
P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen
yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd. |
||
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Oherwydd yr amser sydd
wedi mynd heibio ers i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol glywed tystiolaeth ar y
mater hwn, cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn
barn bresennol y Llywodraeth ar y materion a godwyd gan y deisebydd. |
||
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â'r ddeiseb
gysylltiedig, P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn
ystod Tymor yr Ysgol, yn y dyfodol. |
||
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi
cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r broses
y tu ôl i'r gwaith o ail-ddatblygu'r Gyfnewidfa Lo. |
||
P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu sylwadau a
wnaed gan y deisebwyr a Nick Ramsay AC, a gofyn pam nad yw ymrwymiadau
blaenorol i arwynebu'r A40 heb eu gweithredu eto a gofyn am amserlen ar gyfer y
gwelliannau hyn. |
||
P-05-737 Achubwch ein Bws Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i
glywed barn y deisebydd ar yr ohebiaeth a gafwyd hyd yma, ac i ysgrifennu at
Stagecoach i ofyn am wybodaeth am ganlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd ar y
gwasanaeth yn gynharach yn 2017. |
||
P-04-683 Coed mewn Trefi Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau gweithredu a ganlyn: ·
Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
i ofyn pa gynnydd mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol sydd wedi'i gyflawni
yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac a yw rhywogaethau eraill o blanhigion hefyd
yn cael eu defnyddio at ddiben tebyg; a ·
gofyn barn y deisebwyr ar yr ymateb a gafwyd. |
||
P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-05-733 Dim camau pellach o gwbl mewn perthynas â Pharthau Perygl Nitradau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am gyhoeddiad
ar y camau gweithredu nesaf gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad, fel
y cytunwyd yn flaenorol. |
||
P-05-711 Sicrhau bod Anghenion Pobl Anabl am Addasiadau i Dai yn cael eu Diwallu’n Ddigonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y deisebwyr i ofyn eu barn ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru
a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau
pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
(09:30 - 10:15) |
Sesiwn dystiolaeth – P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb Cathie Robins-Talbot Helen Robins-Talbot Luke Collins- Hayes Zoe Pallenson Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu Cathie Robins-Talbot, Helen Robins-Talbot, Luke Collins-Hayes a Zoe
Pallenson o Deffo! yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor. |
|
Papur i'w nodi – Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i roi gwybod i'r Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am unrhyw ddeisebau yn y dyfodol sy'n
berthnasol i'w waith ynghylch y Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod y dystiolaeth: P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf i'w cymryd ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i lunio adroddiad i'r Cynulliad ar y dystiolaeth a gafwyd. |