Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Rhianon Passmore AC ac Adam Price AC. Nid
oedd dirprwyon yn bresennol ar eu rhan. |
|
(13.15 - 13.25) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nodwyd
y papurau. |
|
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (23 Ebrill 2019) Dogfennau ategol: |
||
Caffael Cyhoeddus: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (30 Ebrill 2019) Dogfennau ategol: |
||
Craffu ar Gyfrifon 2016-17: Llythyr gan Chwaraeon Cymru (8 Ebrill 2019) Dogfennau ategol: |
||
(13.25 - 13.40) |
Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Trafod ymatebion i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-12-19
Papur 1 – Comisiwn y Cynulliad PAC(5)-12-19
Papur 1A – Llythyr gan Gomisiwn y Cynulliad ynglŷn â chodi’r cyfyngiad ar
swyddi y Sefydliad PAC(5)-12-19
Papur 2 - Amgueddfa Cymru PAC(5)-12-19
Papur 3 - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PAC(5)-12-19
Papur 4 – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau yr ymatebion i adroddiad y Pwyllgor ar Gyfrifon 2017-18. 3.2
Cytunwyd y byddai materion yn ymwneud â Chomisiwn y Cynulliad a Llywodraeth
Cymru yn cael eu trafod fel rhan o'r gwaith o graffu ar Gyfrifon 2018-19 ac y
byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i
ofyn am eglurhad ar nifer o bwyntiau. |
|
(13.40 - 15.15) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil PAC(5)-12-19 Papur 5 – Chwarae Teg Cerys Furlong – Chwarae Teg Robert Lloyd Griffiths -
Sefydliad y Cyfarwyddwyr Dylan Jones-Evans –
Prifysgol De Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn gwybodaeth gefndirol yng nghwmni Cerys Furlong o
Chwarae Teg, Robert Lloyd Griffiths o Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Dylan
Jones-Evans o Brifysgol De Cymru cyn yr ymchwiliad ffurfiol i gymorth ariannol
Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau. |
|
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitemau 6, 7 & 8 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.15 - 15.30) |
Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(15.30 - 16.15) |
Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd – Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-12-19
Papur 6 - Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd y byddai fersiwn
ddiwygiedig yn cael ei dosbarthu drwy e-bost i'w chytuno ganddynt. |
|
(16.15 - 16.45) |
Rheoli Gwastraff: Adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru Papur briffio PAC(5)-12-19 Papur 7 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Caffael Capasiti Trin Gwastraff Gweddilliol a Gwastraff Bwyd PAC(5)-12-19 Papur 8 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-12-19 Papur 9 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli Gwastraff yng Nghymru: Ailgylchu Trefol PAC(5)-12-19 Papur 10 – Ymateb Llywodraeth Cymru PAC(5)-12-19 Papur 11 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli Gwastraff yng Nghymru – Atal Gwastraff PAC(5)-12-19 Papur 12 – Ymateb Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Aelodau adroddiadau yr Archwilydd Cyffredinol ar reoli gwastraff,
gan nodi'r ymatebion gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal
ymchwiliad i'r mater hwn yn nhymor yr hydref. |