Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/12/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 6 a 7 o gyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 12 Rhagfyr 2018 i drafod yr adroddiad drafft ar Fil Amaethyddiaeth y DU Cofnodion: 2.1
Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3,6 a 7
yng nghyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 12 Rhagfyr 2018 i drafod yr
adroddiad drafft ar Fil Amaethyddiaeth y DU. |
|
(09.00-09.30) |
Sesiwn friffio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Cafodd
y Pwyllgor frîff llafar ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil
Amaethyddiaeth y DU gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Gwasanaeth Ymchwil. |
|
(09.30-10.30) |
Trafod Bil Amaethyddiaeth y DU: sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig Peter McDonald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Diwygio Rheoli
Tir, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 5.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig. 5.2
Gwahoddodd y Cadeirydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig i rannu unrhyw sylwadau ychwanegol gyda'r Pwyllgor i lywio ei adroddiad
ar Fil Amaethyddiaeth y DU. 5.3
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i
rannu'r ohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd
Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ynghylch trefniadau
Sefydliad Masnach y Byd gyda'r Pwyllgor cyn gynted ag y bo'n dod i law. |
|
(10.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.2 Nododd
y Pwyllgor y papurau o dan eitem 5. |
|
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar ôl y sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn y cyfarfod Pwyllgor ar 8 Tachwedd 2018 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynullnio a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: |
||
(10.30-10.45) |
Blaenraglen waith Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu ar adfer bioamrywiaeth a chytunodd arno.
Cytunodd hefyd i ymgymryd ag ymchwiliad yn ystod tymor y gwanwyn. |
|
(10.45 - 11.15) |
Trafod tystiolaeth lafar Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4. |