Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/10/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd
a Materion Gwledig. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(13.45-14.45) |
Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Sesiwn dystiolaeth 1 - Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Deben, Cadeirydd –
Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Deben, Cadeirydd, Pwyllgor y DU ar Newid
Hinsawdd. |
|
(14.55-15.40) |
Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Sesiwn dystiolaeth 2 - Zero Carbon Hannah Dillon, Pennaeth
Ymgyrch – Zero Carbon Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Dillon, Pennaeth Ymgyrch, Zero Carbon. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. 4.2 Cytunwyd i
ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gael rhagor o
wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn y llythyr o dan eitem 4.7 |
||
Ymateb Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i lythyr y Cadeirydd - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU Dogfennau ategol: |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr Ymddiriedolaethau Natur Cymru - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU Dogfennau ategol: |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Tlodi Tanwydd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth rhwng Cymdeithas y Ffermwyr Tenant a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth at y Prif Weinidog gan Gyswllt Amgylchedd Cymru - Bioamrywiaeth Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
||
(15.40-16.00) |
Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn
ystod eitemau 2 a 3. |