Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Claire Morris
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC, Julie Morgan AC ac Angela
Burns AC a dirprwyodd Suzy Davies AC ar ran Angela Burns AC. |
||
(09.30 - 11.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - sesiwn dystiolaeth 1 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a'u
swyddogion. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor i egluro a
yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn caniatáu cyfuno o
ffynonellau eraill mewn ffordd debyg i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. 2.3 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor
yn amlinellu'r cynigion y mae wedi eu cymeradwyo ynghylch sut y bydd byrddau
iechyd yn defnyddio'r buddsoddiad ychwanegol i leihau amserau aros. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru mewn perthynas â'r ymchwiliad i ddefnyddio
meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. |
||
Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn perthynas â'r ymchwiliad
i ddefnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. |
||
Defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - Gwybodaeth ychwanegol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Goleg
Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a Choleg Brenhinol y Therapyddion
Galwedigaethol mewn perthynas â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth
wrthseicotig mewn cartrefi gofal. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch amseroedd aros canser Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon o ran amseroedd aros canser. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y
cyfarfod. |