Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.00 - 15.00)

2.

Sesiwn Graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyfiawnder, Llywodraeth Cymru

Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio, Llywodraeth Cymru

Dylan Hughes, Prif Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

 

Sicrhau Cyfiawnder i Gymru: adroddiad cynnydd 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(15.05 - 15.10)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

3.1

SL(6)437 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

3.2

SL(6)441 - Gorchymyn Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Diwygio) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

3.3

SL(6)450 – Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(15.10 – 15.15)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)452 – Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu - Cod Ymarfer i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(15.15 – 15.20)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheolaethau Swyddogol (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

5.2

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

5.3

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Ffioedd a Thaliadau) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

5.4

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.5

Gohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth: Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiwylliant a’r Diwydiannau Creadigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.

(15.20 – 15.25)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth gan Sam Rowlands AS at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Sam Rowlands AS at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

6.2

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

6.3

Gohebiaeth rhwng Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a Llywodraeth y DU.

6.4

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Y DU/Rwanda: Cytundeb ar gyfer Darparu Partneriaeth Lloches i Gryfhau Ymrwymiadau Rhyngwladol a Rennir ar Amddiffyn Ffoaduriaid a Mudwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog:

(15.25)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(15.25 – 15.45)

8.

Sesiwn Graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

(15.45 – 16.30)

9.

Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru), a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

(16.30 – 16.45)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfiawnder Troseddol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i ystyried adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.