Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/02/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS a Natasha Asghar AS.

 

1.3 Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Natasha Asghar AS.

(09:15-09:30)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr, gan gytuno i aros am adroddiad gwerthuso’r Banc Datblygu a gofyn am gyngor pellach gan Archwilio Cymru pan ddaw’r adroddiad i law.

 

2.1

Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad ynghylch Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Dogfennau ategol:

(09:30-11:00)

3.

Sesiwn Dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru - Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

Swyddogion Llywodraeth Cymru

 

·       Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol - Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

·       Emma Williams - Cyfarwyddwr - Tai ac Adfywio

·       John Howells - Cyfarwyddwr - Newid Hinsawdd, Cynllunio ac Ynni

·       Neil Hemington - Pennaeth Cynllunio

 

Dogfennau ategol

 

-       Papur Briffio Archwilio Cymru

-       Adroddiad Archwilio Cymru - Craciau yn y Sylfeini Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol - Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Emma Williams - Cyfarwyddwr - Tai ac Adfywio, John Howells - Cyfarwyddwr - Newid Hinsawdd, Cynllunio ac Ynni, a Neil Hemington - Pennaeth Cynllunio, fel rhan o'r ymchwiliad i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru.

 

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(11:10-11:40)

5.

Diogelwch Adeiladau yng Nghymru - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:40-12:00)

6.

Adroddiad Drafft - Craffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(12:00-12:15)

7.

Papur briffio Archwilio Cymru ar ei adroddiad: Datblygu cynaliadwy? – gwneud y defnydd gorau o dir llwyd ac adeiladau gwag

Dogfennau ategol

 

·         Adroddiad Archwilio Cymru - Datblygu cynaliadwy? – gwneud y defnydd gorau o dir llwyd ac adeiladau gwag

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunwyd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach.