Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/02/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

 

(09:15-09:30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am ymateb o sylwedd i’w lythyr cychwynnol dyddiedig 14 Rhagfyr 2023.

 

2.2 Datganodd Adam Price AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n Gomisiynydd y Senedd.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ar rai o'r materion a godwyd yn eu hymateb.

 

2.1

Llythyr oddi wrth Grŵp Prif Swyddogion Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Benodiadau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

2.2

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Gyfrifon 2022-23

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a Chyfansoddiad Llywodraeth Cymru ar Fferm Gilestone a’r Cynllun Cadwraeth Gweilch

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, y Trysorlys a Chyfansoddiad Llywodraeth Cymru ar Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr oddi wrth Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio

Dogfennau ategol:

2.6

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2021-22

Dogfennau ategol:

(09:30-11:00)

3.

Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru – Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Sioned Evans - Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg

Owain Lloyd - Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd yr Aelodau'r tystion fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon.

 

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw ac Eitem 1 o gyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau 7 Mawrth 2024

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(11:00-110:10)

(Egwyl)

(11:10-11:30)

5.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd – Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Estyn i ofyn am ei farn mewn perthynas ag ymchwiliad y Pwyllgor ar Gyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon.

 

(11:30-11:45)

6.

Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Llywodraeth Cymru 2021-22 – y Camau Nesaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth bellach i'r ymateb i'r adroddiad a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth.