Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2024 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.40)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. 

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS a Tom Giffard AS, ac roedd Joel James AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Tom Giffard AS.

 

(10.40 - 11.25)

2.

Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: sesiwn dystiolaeth gyda deddfwrfeydd eraill (1)

Kevin Brennan MP, Tŷr Cyffredin, Senedd y DU

Y Farwnes Bull, Tŷr Arglwyddi, Senedd y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Farwnes Bull.

 

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kevin Brennan AS.

 

(11.25)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru a National Theatre Wales ynghylch yr Adolygiad Buddsoddi.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch effaith y gostyngiadau yn y gyllideb ar gyrff hyd braich.

 

3.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ynghylch y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol.

 

3.1

Baden-Württemberg: Cyd-ddatganiad Cydweithredu

Dogfennau ategol:

3.2

Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol

Dogfennau ategol:

3.3

Cyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi

Dogfennau ategol:

3.4

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

3.5

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

3.6

Cyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru

Dogfennau ategol:

(11.25)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7, 8 a 10 yn ystod y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.25 - 11.45)

5.

Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE: trafod y tystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.45 - 12.00)

6.

Hawliau darlledu rygbi'r Chwe Gwlad: trafod y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol cyn cytuno i ddychwelyd at y pwnc yn y cyfarfod nesaf, a drefnwyd ar gyfer 28 Chwefror 2024.

 

(12.00 - 12.10)

7.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft cyn cytuno arno.

 

(12.10 - 12.15)

8.

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024 cyn cytuno arni.

 

(13.00 - 14.00)

9.

Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: sesiwn dystiolaeth gyda chyrff ambarél (2)

Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Tom Kiehl, Prif Weithredwr Dros Dro, UK Music

Ruth Cocks, Cyfarwyddwr, British Council Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; UK Music; a British Council Cymru.

 

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at UK Music i ofyn am ragor o wybodaeth yn gysylltiedig â’r sesiwn.

 

(14.00 - 14.15)

10.

Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE: trafod y tystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.