Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.40) |
Iechyd Meddwl Amenedigol: Gwaith dilynol – sesiwn dystiolaeth 1 Sian Harrop-Griffiths, Cyfarwyddwr Cynllunio a
Strategaeth – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Hazel Powell, Cyfarwyddwr Nyrsio’r Uned, Gwasanaethau Iechyd
Meddwl ac Anabledd Dysgu – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Dr Alberto Salmoiraghi, Seiciatrydd Ymgynghorol a
Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr Dr Annmarie Schmidt, Seiciatrydd Ymgynghorol – Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Carole Bell,
Cyfarwyddwr Nyrsio – Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Carl Shortland,
Uwch Gynllunydd Iechyd Meddwl – Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Gwasanaethau
Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC). |
|
(10.50 - 11.40) |
Iechyd Meddwl Amenedigol: Gwaith dilynol – sesiwn dystiolaeth 2 Sharon Fernandez,
Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Amenedigol - Rhaglen
Gydweithredol GIG Cymru Joanna Jordan,
Cyfarwyddwr y Rhaglen Iechyd Meddwl Genedlaethol – Rhaglen Gydweithredol GIG
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gydweithrediad
Iechyd GIG Cymru. 3.2 Cytunodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer
Iechyd Meddwl Amenedigol i ddarparu nodyn ar yr hyn a ganlyn: ·
faint o'r Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl
Amenedigol a Babanod a hyfforddwyd yn ddiweddar sy'n siarad Cymraeg; ·
cyfanswm safonau ansawdd Coleg
Brenhinol y Seiciatryddion sydd ar waith ar hyn o bryd. |
|
(11.40) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. 4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am eglurhad o ffocws y
dadansoddiad o gyllid ysgolion a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, dan
arweiniad Luke Sibieta. |
|
Llythyr gan yr NSPCC ynghylch y gwaith dilynol y mae'r Pwyllgor yn ei wneud ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Undebau Llafur ynghylch adolygiad Llywodraeth Cymru o ariannu ysgolion Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch ei ymchwiliad i fonitro a dadansoddi'r defnydd a wneir o ffrwyno plant mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yng Nghymru a Lloegr Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch rheoleiddio ysgolion annibynnol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu'r ddarpariaeth cleifion mewnol i famau a babanod yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.40 - 11.50) |
Iechyd Meddwl Amenedigol: Gwaith dilynol – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau tystiolaeth, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’i ganfyddiadau. |
|
(11.50 - 12.30) |
Hawliau Plant yng Nghymru – ystyried yr adroddiad drafft |