Digwyddiad

DIGWYDDIAD: Lansio adroddiad y Prosiect Awtistiaeth Cenedlaethol

Dyddiad: Dydd Mercher 1 Chwefror 2017

Amser: 12.00 - 13.30

Lleoliad: Senedd

Disgrifiad: Mae’r Prosiect Awtistiaeth Cenedlaethol yn lansio’i adroddiad newydd, sef Autism Dividend: Reaping the Rewards of Better Investment, sy’n adolygu ac yn crynhoi’r sail dystiolaeth am effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer pobl awtistig. Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ddadansoddiad newydd gan Martin Knapp a’i gydweithwyr o Ysgol Economeg Llundain, ac wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â grŵp mawr o arbenigwyr, gan gynnwys aelodau awtistig. Mae’n dadlau o blaid ymyriadau ystyrlon o safon uchel i bobl awtistig a buddsoddi rhagor mewn gwaith ymchwil.

Agored i’r cyhoedd: Drwy wahoddiad yn unig ond bydd y Senedd a’r Pierhead yn aros yn agored i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.

Noddir gan

Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr