Digwyddiad
DIGWYDDIAD: Ymgysylltu Gwleidyddol - Cydnabod sgiliau pobl ifanc ag anableddau
Dyddiad: Dydd Llun 15 Gorffennaf 2019
Amser: 09.30 - 15.30
Lleoliad: Siambr Hywel – Tŷ Hywel
Disgrifiad: Trefnwyd y digwyddiad hwn i ddathlu diwrnodau sgiliau ieuenctid y byd y Cenhedloedd Unedig, ac i gydnabod cyfraniad pobl ag anableddau. Nod y digwyddiad yw dod â phobl ifanc anabl at ei gilydd i gymryd rhan mewn panel holi ac ateb gydag Aelodau'r Cynulliad, ac i wella eu hymgysylltiad gwleidyddol. Ceisia’r digwyddiad hefyd amlygu'r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag cymryd rhan, drwy berfformiad drama. Hefyd, bydd cyfle i bobl ifanc edrych tuag at Gymru’r dyfodol a chymryd rhan mewn gweithdy a gaiff ei gynnal gan ‘Cymru Ifanc’. Gall pobl ifanc gael gwybodaeth am brosiectau, lleisio eu barn a chael gwybod am gymorth sydd ar gael i bobl anabl yn y gweithle a thrwy'r lwfans myfyrwyr anabl yn ystod y digwyddiad.
Agored i’r cyhoedd: Bydd presenoldeb yn y digwyddiad drwy wahoddiad yn unig, ond bydd y Senedd a'r Pierhead ar agor i'r cyhoedd yn ystod ein horiau agor arferol.
Noddir gan
Ychwanegwch y cyfarfod at eich calendr